
2020 Rhif 1329 (Cy. 295)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020
Gwnaed am 3.02 p.m. ar 20 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 7.00 p.m. ar 20 Tachwedd 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Ychwanegiadau at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Bonaire, Sint Eustatius a Saba”“
 Cymanwlad Ynysoedd Gogledd Mariana”“
 Dinas Jerwsalem”“
 Gweriniaeth Namibia”“
 Gweriniaeth Rwanda”“
 Israel”“
 Sri Lanka”“
 Uruguay”“
 Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 21 Tachwedd 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw ychwanegu’r wlad a’r diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 at Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 21 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
RHAN 3 Diwygio rheoliad 4 (gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygio rheoliad 4 (gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
4 
Yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn lle “cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyrraedd” rhodder “wrth gyrraedd neu cyn cyrraedd”.
RHAN 4 Diwygio Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygio Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 4, 5, 7 nac 8)
5 
Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 4, 5, 7 nac 8), ym mharagraff 1(1)(f) ar ôl “gynhadledd y Deyrnas Unedig” mewnosoder “yn y Deyrnas Unedig”.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 7 nac 8)
6 

(1) Mae Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 7 nac 8), wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 13 mewnosoder—“
13. 

(1) Unrhyw berson y mae’r Adran berthnasol wedi ardystio ei fod yn bodloni’r disgrifiadau yn is-baragraffau (a), (b) neu (c)—
(a) gwas i’r Goron neu gontractwr llywodraeth y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith plismona hanfodol neu waith llywodraeth hanfodol yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, oni bai am y paragraff hwn, hunanynysu yn unol â rheoliadau 7 neu 8;
(b) person sy’n dychwelyd o gynnal busnes hanfodol y wladwriaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
(c) person sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig pan fo hynny’n angenrheidiol i hwyluso gweithrediad cenhadaeth ddiplomyddol neu swydd gonsylaidd Ei Mawrhydi, neu benodiad milwrol neu benodiad swyddogol arall ar ran Ei Mawrhydi.
(2) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a) ystyr “swydd gonsylaidd” yw unrhyw brif gonswl, conswl, is-gonswl neu asiantaeth gonsylaidd,
(b) mae i “gwas i’r Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989,
(c) ystyr “gwaith llywodraeth hanfodol” yw gwaith sydd wedi ei ddynodi felly gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, waith sy’n gysylltiedig â diogelwch gwladol, gwaith yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn unol â’i swyddogaethau statudol, a gwaith sy’n ymwneud â mewnfudo, clefyd y coronafeirws neu unrhyw ymateb argyfwng arall, ond nid yw’n cynnwys gwaith o’r disgrifiad a bennir ym mharagraff 2(1) o Ran 1 o’r Atodlen hon,
(d) ystyr “plismona hanfodol” yw plismona sydd wedi ei ddynodi felly ar ran y prif swyddog perthnasol neu’r prif gwnstabl perthnasol,
(e) ystyr “busnes hanfodol y wladwriaeth” yw gweithgaredd a ddynodwyd yn hanfodol i’r Deyrnas Unedig neu Lywodraeth Ei Mawrhydi gan yr Adran berthnasol, ac mae’n cynnwys, yn benodol, drafodaethau dwyochrog neu amlochrog â gwladwriaeth arall neu sefydliad rhyngwladol arall ac ymweliadau â gwladwriaeth arall ar ran y Deyrnas Unedig neu Lywodraeth ei Mawrhydi,
(f) mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989.”.
(3) Ar ôl paragraff 13 mewnosoder—“
13A. 

(1) Person sy’n dychwelyd o ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a ardystiwyd gan yr Adran berthnasol yn waith sy’n angenrheidiol i hwyluso gwaith llywodraeth hanfodol neu fusnes hanfodol y wladwriaeth.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) mae i “gwaith llywodraeth hanfodol” a “busnes hanfodol y wladwriaeth” yr un ystyr ag a roddir iddynt ym mharagraff 13.”.
(4) Ym mharagraff 35(a)(i) hepgorer “gan gynnwys gwaith sy’n ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio ceblau tanfor sy’n cysylltu’r Deyrnas Unedig â gwledydd eraill,”.
(5) Ar ôl paragraff 38 mewnosoder—“
39. 
Person —
(a) sy’n ymwneud â gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,
(b) y mae ei rôl yn cefnogi yn uniongyrchol y gwaith o osod, cynnal a chadw neu atgyweirio seilwaith telathrebu ffeibr optig tanfor,pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.”
RHAN 5 Diwygiadau Amrywiol i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
7 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, yn lle’r pennawd rhodder “Gwledydd, tiriogaethau a rhannau o wledydd neu diriogaethau”.
(3) Yn rheoliad 12B(3)(a)(ii) (gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc), yn y testun Cymraeg, hepgorer “arall”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.02 p.m. ar 20 Tachwedd 2020