
2020 Rhif 1308 (Cy. 289)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd
Bwyd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020Gofynion sifftio wedi eu bodloni16 Tachwedd 2020
Gwnaed 17 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 19 Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw RheoliadauBwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’u gosodir.
(3) Daw rheoliad 2 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010
2 
Yn rheoliad 11(1) o Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010, yn lle “yn y Deyrnas Unedig yn unig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
3 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(5) (diwygio rheoliad 4 o O.S. 2009/1551 (Cy. 151)), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) ym mharagraff (8), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”;”.
(3) Yn rheoliad 4(2) (diwygio rheoliad 4 o O.S. 2011/991 (Cy. 145)), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Nid yw paragraff (1)(b)(ii) yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.”;”.
(4) Yn rheoliad 7(5) (diwygio rheoliad 12 o O.S. 2011/1719 (Cy. 195)), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) ym mharagraff (9)(a), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “Prydain Fawr”;”.
(5) Yn rheoliad 8(5) (diwygio rheoliad 5 o O.S. 2017/724 (Cy. 174)), yn is-baragraff (a), yn y testun a fewnosodwyd, yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
Diwygio Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
4 
Hepgorer rheoliad 3(3) (diwygio rheoliad 7(5)(a) o O.S. 2019/732 (Cy. 137)) o Reoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019
5 

(1) Mae Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (mewnosod rheoliad 23 yn O.S. 2009/1551 (Cy. 151)), yn y testun a fewnosodwyd, yn lle “y mae’r diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, ac yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.
(3) Hepgorer rheoliad 5 (diwygio rheoliad 4(2) o O.S. 2019/732 (Cy. 137)).
(4) Hepgorer rheoliad 6 (diwygio rheoliad 2 o O.S. 2019/1418 (Cy. 253)).
Dirymu Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
6 
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2020