
2020 Rhif 1288 (Cy. 286)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 5.04 p.m. ar 13 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 7.00 p.m. ar 13 Tachwedd 2020
Yn dod i rym am am 4.00 a.m. ar 14 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 14 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12A—
(a) ym mharagraff (4), yn y testun Saesneg, yn lle “by”, lle y mae’n digwydd am yr ail dro, rhodder “of”;
(b) ym mharagraff (7), yn y rheoliad 10(4) a addaswyd—
(i) yn y testun Cymraeg, yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—“
(ii) i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol;”
(ii) ar ôl is-baragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iii) er mwyn teithio at ddiben ymadael â Chymru;”.
(3) Ar ôl rheoliad 12A mewnosoder—“
RHAN 3A Teithio o Ddenmarc
Gwahardd awyrennau a llestrau rhag teithio’n uniongyrchol o Ddenmarc
12B. 

(1) Ni chaiff person sy’n rheoli neu’n gyfrifol am reolaeth awyren neu lestr yr oedd ei man ymadael diwethaf yn Nenmarc beri na chaniatáu iddi gyrraedd Cymru, oni fo’n rhesymol angenrheidiol iddi wneud hynny er mwyn sicrhau—
(a) diogelwch yr awyren neu’r llestr, neu
(b) iechyd a diogelwch unrhyw berson sydd arni.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a) awyren neu lestr a weithredir yn fasnachol ac nad yw’n cludo unrhyw deithwyr;
(b) awyren neu lestr a weithredir gan Lywodraeth Ei Mawrhydi neu er mwyn cefnogi Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “cyrraedd” yw—
(i) mewn perthynas ag awyren, glanio;
(ii) mewn perthynas â llestr, angori yn unrhyw fan arall;
(b) ystyr “teithiwr” yw person a gludir mewn awyren neu ar lestr ac eithrio aelod o’i chriw.”
(4) Yn rheoliad 14(1)—
(a) yn is-baragraff (e), hepgorer “neu”;
(b) yn is-baragraff (f), ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(c) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(g) 12B(1),”.
(5) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y man priodol mewnosoder—“
 Bahrain”“
 Cambodia”“
 Chile”“
 Corfu”“
 Creta”“
 Yr Emiraethau Arabaidd Unedig”“
 Gwlad yr Iâ”“
 Kos”“
 Laos”“
 Qatar”“
 Ródhos”“
 Zakynthos”.
(6) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 (Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig), yn y man priodol mewnosoder—“
 Ynysoedd Turks a Caicos”.
(7) Yn Rhan 1 o Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“
 Gwlad Groeg”.
(8) Yn Rhan 2 o Atodlen 3 (Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig), hepgorer—“
 Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus”.
Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â rheoliad 2(2)
3 
Nid yw rheoliad 12B o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020, a fewnosodir gan reoliad 2(3) o’r Rheoliadau hyn, yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2(5) a (6)
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 14 Tachwedd 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2(5) neu (6), neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 14 Tachwedd 2020 neu wedi hynny.
(2) Nid yw ychwanegu’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn rheoliad 2(5) and (6) at Rannau 1 a 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 14 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2(5) neu (6) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2(5) neu (6), drwy gyfeirio at ba un a oedd y wlad neu’r diriogaeth yn wlad neu’n diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y wlad neu’r diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2(7) a (8)
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 14 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2(7) neu (8) ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 14 Tachwedd 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2(7) neu (8), i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
6 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 18A—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) hepgorer “4,”;
(ii) ar ôl “â P” mewnosoder “, hyd at ddiwedd cyfnod y cyfyngiad”;
(b) ym mharagraff (3), yn lle “y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyrhaeddodd P Cymru” rhodder “cyfnod y cyfyngiad”;
(c) ym mharagraff (4), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(d) er mwyn teithio at ddiben ymadael â Chymru.”
(d) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod y cyfyngiad” mewn perthynas â P ac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, yw’r cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod sydd 14 o ddiwrnodau ar ôl i P gyrraedd Cymru ddiwethaf cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020—
(a) o Ddenmarc, neu
(b) o unrhyw le arall, ar ôl bod yn Nenmarc ers i P fod yng Nghymru yn flaenorol.”
(3) Yn rheoliad 28—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “neu 18A(3)”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “neu 14(2)” rhodder “, 14(2) neu 18A(3)”.
(4) Yn rheoliad 31—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “neu 18A(3)”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “neu 14(2)” rhodder “, 14(2) neu 18A(3)”.
(5) Yn rheoliad 35(1)(a), ar ôl “16,” mewnosoder “ 18A(3),”.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
7 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020, hepgorer paragraff (5).
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 5.04 p.m. ar 13 Tachwedd 2020