
2020 Rhif 1250 (Cy. 283)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Gwnaed 9 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Tachwedd 2020
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 62 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(, a pharagraffau 1 a 2(2)(h) o Atodlen 9 iddi, ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017
2 
Ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (Nodiadau Esboniadol), hepgorer y paragraff o’r enw “Cymorth gwladwriaethol”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2020