
2020 Rhif 1249 (Cy. 282)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Rheoli Morol, Cymru
Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020Gofynion sifftio wedi eu bodloni9 Tachwedd 2020
Gwnaed 10 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 12 Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r gofyniad i ymgynghori o dan amgylchiadau penodol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Diwygio Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2 
Mae Rheoliadau Pysgodfeydd a Rheoli Morol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
Diwygio rheoliad 3 (diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011)
3 
Yn rheoliad 3(2), yn yr erthygl 3A(6)(b) newydd sydd i’w mewnosod yng Ngorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 gan y rheoliad hwnnw, yn lle “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (England and Wales) Regulations 2005” rhodder “regulation 9(1) of the Hazardous Waste (Wales) Regulations 2005”.
Amnewid rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016)
4 
Yn lle rheoliad 4 rhodder—“
Rheoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016
4. 
Yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2016, yn lle “yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd” rhodder “, i’r graddau y bo’n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae’n cael effaith yn rhinwedd adran 7A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (gan gynnwys, i’r graddau y bo’n ofynnol, fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd) ac mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” yn adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018””.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Tachwedd 2020