
2020 Rhif 1246 (Cy. 281)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020Gofynion sifftio wedi eu bodloni2 Tachwedd 2020
Gwnaed 9 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 11 Tachwedd 2020
Coming into force in accordance with regulation 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 132(1) a (2) o Ddeddf Addysg 2002, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor y Gweithlu Addysg fel sy’n ofynnol gan adran 132(4) o’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol y Senedd ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” yr ystyr a roddir i “IP completion day” yn adran 39(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020.
Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2 

(1) Mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Cymwysterau Athrawon (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (1)(c) o baragraff 4 a amnewidiwyd o Atodlen 2, yn lle “pharagraff 48” rhodder “pharagraff 50 neu baragraff 51”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2020