
2020 Rhif 1240 (Cy. 280)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020
Gwnaed 6 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 10 Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 11M(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
2 

(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3), yn lle’r testun a amnewidiwyd rhodder “i Brydain Fawr o wlad heblaw Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth”.
(3) Yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Yn rheoliad 13(3)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth arall” rhodder “Aelod-wladwriaeth neu Ogledd Iwerddon”.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Tachwedd 2020