
2020 Rhif 1232 (Cy. 278)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Gwnaed am 2.10 p.m. ar 6 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 3.00 p.m. ar 6 Tachwedd 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“
 Yr Almaen”“
 Sweden”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod yn yr Almaen neu yn Sweden ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 7 Tachwedd 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod yn yr Almaen neu yn Sweden, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3 Diwygiadau i destun Cymraeg Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiadau i Ran 1 o Atodlen 2 (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 4, 5, 7 nac 8)
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliadau 4, 5, 7 nac 8), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff 1(2)(a) a (b), yn lle “Swyddfa Dramor a Chymanwlad” rhodder “Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.10 p.m. ar 6 Tachwedd 2020