
2020 Rhif 1216 (Cy. 275) (C. 34)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 6) 2020
Gwnaed 4 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 58(4) a (5) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Enwi
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 6) 2020.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Rhagfyr 2020
2 
4 Rhagfyr 2020 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddod i rym, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—
(a) adrannau 3, 7, 8, 9, 10 ac 16; a
(b) Atodlen 2, paragraffau 15, 23, 24, 25, 26, 27, 29, 33, 34(1) a (3)(a), 35 a 36.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Tachwedd 2020