
2020 Rhif 1215 (Cy. 274)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020Gofynion sifftio wedi eu bodloni2 Tachwedd 2020
Gwnaed 4 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 6 Tachwedd 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Amgylchedd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac eithrio rheoliad 3 a ddaw i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
Diwygio Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
2 

(1) Mae Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle erthygl 11(3), rhodder—“
(3) Caiff Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r Corff er mwyn—
(a) sicrhau y bodlonir unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau UE a ddargedwir, neu
(b) gweithredu unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig.”
(3) Yn lle erthygl 11A(2)(b), rhodder—“
(b) o dan unrhyw ddeddfiad arall at ddiben—
(i) sicrhau y bodlonir unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau UE a ddargedwir, neu
(ii) gweithredu unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig,”.
(4) Yn lle erthygl 11A(4), rhodder—“
(4) Mae paragraff (4A) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol yn amrywio neu’n dirymu unrhyw gyfarwyddyd a roddir i’r Corff (boed o dan erthygl 11 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall) at ddiben—
(a) sicrhau y bodlonir unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau UE a ddargedwir, neu
(b) gweithredu unrhyw un neu ragor o rwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig.
(4A) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gwneud yr amrywiad neu’r dirymiad—
(a) cyhoeddi’r amrywiad neu’r dirymiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol;
(b) sicrhau bod copïau o’r amrywiad neu’r dirymiad ar gael ar gais.”
Diwygio Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
3 
Yn rheoliad 2(5)(a) o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019, yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Chyfarwyddeb 2010/75/EU”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Tachwedd 2020