
2020 Rhif 120 (Cy. 22)
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 4 Chwefror 2020
Yn dod i rym drannoeth y diwrnod y’i gwnei

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 32 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a pharagraff 14 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
2 
Yn erthygl 21 o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018, hepgorer “nad yw’n fwy nag £20,000”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Chwefror 2020