
2020 Rhif 119 (Cy. 21)
Cefn Gwlad, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed 4 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Chwefror 2020
Yn dod i rym 1 Ebrill 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a pharagraffau 1(2) a (3), a 2(1) a (2) o Atodlen 7 iddi, ar ôl ymgynghori â’r cynghorau ar gyfer pob prif ardal y mae rhan ohoni’n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn unol â pharagraff 2(3) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2020.
Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995
2 

(1) Mae Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1 o Atodlen 2, yn lle—“

Brecon Beacons National Park AuthorityLocal authority members 16
Secretary of State members 8
Total number of members 24”rhodder—“

Brecon Beacons National Park AuthorityLocal authority members 12
Secretary of State members 6
Total number of members 18”
(3) Yn Rhan 2 o Atodlen 2, yn lle—“

Brecon Beacons National Park Authority
Council of a principal area Number of members
Blaenau Gwent County Borough Council 1
Carmarthenshire County Council 2
Merthyr Tydfil County Borough Council 1
Monmouthshire County Council 2
Powys Council 8
Rhondda, Cynon, Taff County Borough Council 1
Torfaen County Borough Council 1”rhodder—“

Brecon Beacons National Park Authority
Council of a principal area Number of members
Blaenau Gwent County Borough Council 1
Carmarthenshire County Council 1
Merthyr Tydfil County Borough Council 1
Monmouthshire County Council 1
Powys Council 6
Rhondda Cynon Taff County Borough Council 1
Torfaen County Borough Council 1”
Hannah Blythyn
Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn gweithredu o dan awdurdod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.
4 Chwefror 2020