
2020 Rhif 1182 (Cy. 267) (C. 33)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020
Gwnaed 28 Hydref 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 1) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Tachwedd 2020
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020—
(a) adran 5;
(b) adran 15;
(c) adran 37;
(d) adran 39;
(e) adrannau 45 a 46;
(f) adran 67;
(g) adran 74;
(h) adran 82.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 2 Tachwedd 2020 at ddiben arfer pwerau
3 

(1) Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion gwneud rheoliadau—
(a) adran 16;
(b) adran 21;
(c) adran 32;
(d) adran 36;
(e) adran 54;
(f) adran 56;
(g) adran 60;
(h) adran 65;
(i) adrannau 75 i 77;
(j) adran 83;
(k) adran 85;
(l) adrannau 91 a 92;
(m) adran 95;
(n) adran 96 a pharagraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) o’r Atodlen.
(2) Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 2 Tachwedd 2020 ond at ddibenion dyroddi neu adolygu’r cod o dan adran 4 o’r Ddeddf—
(a) adran 4;
(b) adrannau 7 ac 8;
(c) adran 47.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Ionawr 2021
4 

(1) Daw adrannau 61 a 62 o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 4 Ionawr 2021 at bob diben sy’n weddill—
(a) adran 56(1);
(b) adran 56(4) i (6);
(c) adran 60.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Hydref 2020