
2020 Rhif 1179 (Cy. 265)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020
Gwnaed 27 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 28 Hydref 2020
Yn dod i rym 19 Tachwedd 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff ac atal, lleihau a rheoli gwastraff.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o DCE 1972, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Tachwedd 2020.
Diwygio Mesur Gwastraff (Cymru) 2010
2 

(1) Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 9(3), yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.
(3) Yn adran 17(2), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004
3 

(1) Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff” yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
(3) Yn rheoliad 7(10), yn lle “Reoliad y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
4 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)(a), yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
(3) Yn rheoliad 5(2), yn y diffiniad o “rheoli”, ar ôl “adfer” mewnosoder “(gan gynnwys sortio)”.
(4) Yn lle rheoliad 19(4) rhodder—“
(4) Mae paragraff (1) yn gymwys i gymysgu olew gwastraff dim ond pan fyddai cymysgu olew o’r fath yn rhwystro atgynhyrchu neu weithrediad ailgylchu arall sy’n cyflawni canlyniad cyffredinol sy’n gyfwerth neu’n well nag atgynhyrchu.
(5) Ym mharagraff (4)—
 ystyr “ailgylchu” (“recycling”) yw unrhyw weithrediad adfer lle y caiff deunyddiau gwastraff eu hailbrosesu yn gynhyrchion, deunyddiau neu sylweddau, boed hynny at y dibenion gwreiddiol neu ddibenion arall, gan gynnwys ailbrosesu deunydd organig ond heb gynnwys adfer ynni nac ailbrosesu ynni yn ddeunyddiau sydd i’w defnyddio fel tanwyddau;
 ystyr “atgynhyrchu” (“regeneration”) yw unrhyw weithrediad ailgylchu lle y gellir cynhyrchu olewau sylfaen drwy buro olewau gwastraff, yn enwedig drwy gael gwared ar yr halogion, y cynhyrchion ocsideiddio a’r ychwanegion a gynhwysir mewn olewau o’r fath”.
(5) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “Mae’r rheoliad hwn” rhodder “Mae paragraff (2)”;
(ii) yn is-baragraff (b)(i), hepgorer “ac yn economaidd”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan na fo gwahanu yn ofynnol yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r deiliad wneud trefniadau i drin gwastraff peryglus a gymysgwyd mewn cyfleuster a awdurdodir gan drwydded gwastraff i drin y gwastraff hwnnw.”.
(6) Yn rheoliad 47(5B)—
(a) yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;
(b) ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.
(7) Yn rheoliad 48(6B)—
(a) yn lle “Gyfarwyddeb y Cyngor 2011/97/EU” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/850”;
(b) ar y diwedd mewnosoder “neu (3)”.
Diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011
5 

(1) Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017
6 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 9, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”;
(b) ym mharagraff 10, yn lle “Reoliad y Cyngor (EU) 2017/997” rhodder “Gyfarwyddeb (EU) 2018/851”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
27 Hydref 2020