
2020 Rhif 1133 (Cy. 258)
Iechyd Y Cyhoe()dd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020
Gwnaed am 3.29 p.m. ar 16 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 16 Hydref 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 18 Hydref 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 18 Hydref 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiadau i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Hepgor gwledydd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“
 Yr Eidal”“
 Gwladwriaeth Dinas y Fatican”“
 San Marino”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 18 Hydref 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 18 Hydref 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
Diwygiad i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
4 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y cofnod ar gyfer Gwlad Groeg, yn lle’r geiriau o “tiriogaethau” hyd at y diwedd rhodder “tiriogaeth Mykonos”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4
5 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 18 Hydref 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o diriogaeth Creta, neu ar ôl bod yn nhiriogaeth Creta, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 18 Hydref 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(2) Nid yw hepgor tiriogaeth Creta o Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan reoliad 4 yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 18 Hydref 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod yn nhiriogaeth Creta o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(4) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â thiriogaeth Creta, drwy gyfeirio at ba un a oedd tiriogaeth Creta yn diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(5) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.29 p.m. ar 16 Hydref 2020