Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.
2020 No. 1130 (Cy. 257)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Gwnaed am 11.40 a.m. ar 16 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 1.00 p.m. ar 16 Hydref 2020
Yn dod i rym am 6.00 p.m. ar 16 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 16 Hydref 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (r) mewnosoder—“
(s) ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed, ond yn rheoliadau 14(2)(ja), 14A(2)(ea) a 14D(3)(l) a pharagraffau 3(2)(la) a 4(2)(la) o Atodlen 4A, ei ystyr yw person a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020;
(t) ystyr “ardal diogelu iechyd leol” yw ardal a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 4A.”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—“
(8) At ddibenion rheoliadau 14, 14A a 14D ac Atodlen 4A, mae gweithgaredd neu ddigwyddiad “wedi ei drefnu”—
(a) os yw wedi ei drefnu gan—
(i) busnes,
(ii) corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,
(iii) clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu
(iv) corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a
(b) os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—
(i) cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999, pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a
(ii) cydymffurfio â gofynion rheoliadau 12(2) a 13(1).
(9) At ddibenion paragraff (8)(b)—
(a) mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd neu’r digwyddiad yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;
(b) mae rheoliad 12(2) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai’r man lle y mae’r gweithgaredd neu’r digwyddiad yn digwydd yn fangre agored y mae’r person sy’n ei drefnu yn gyfrifol amdani.”
(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a osodir gan reoliad 14D, a pha un a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—
(a) erbyn 23 Hydref 2020;
(b) o leiaf unwaith yn y cyfnod o 7 diwrnod sy’n dechrau ar 24 Hydref 2020;
(c) o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 7 niwrnod. ”
(4) Yn rheoliad 14(2)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol” rhodder “darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol”;
(b) yn lle is-baragraff (ja) rhodder—“
(ja) cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;”.
(5) Yn rheoliad 14A—
(a) ym mharagraff (2), yn lle is-baragraff (e) rhodder—“
(e) darparu, cael neu gael gafael ar ofal plant;
(ea) cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;”;
(b) ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “ddigwyddiad awyr agored wedi ei drefnu” rhodder “ddigwyddiad wedi ei drefnu a gynhelir yn yr awyr agored”;
(c) hepgorer paragraffau (4) a (5).
(6) Ar ôl rheoliad 14C mewnosoder—“
RHAN 4B Cyfyngiadau teithio
Cyfyngiadau ar deithio i ardaloedd ac o ardaloedd lle y mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn uchel
14D. 

(1) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn ardal a restrir yn Atodlen 4B, heb esgus rhesymol, fynd i ran o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol neu aros mewn rhan o Gymru o’r fath.
(2) Ni chaiff unrhyw berson sy’n byw mewn rhan o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol, heb esgus rhesymol, adael Cymru at ddiben mynd i ardal a restrir yn Atodlen 4B.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol mewn rhan o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol neu mewn ardal a restrir yn Atodlen 4B (yn y drefn honno)—
(a) cael—
(i) bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr un aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
(ii) cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad hanfodol yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;
(b) cael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraff 6 neu 7 o Atodlen 4 neu adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;
(c) cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 10 o Atodlen 4 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;
(d) darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;
(e) gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud y gwaith neu ddarparu’r gwasanaeth o’r tu allan i’r ardal;
(f) pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi a chystadlu;
(g) darparu neu gael cynhorthwy brys;
(h) mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil —
(i) fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,
(ii) os caiff ei wahodd i fynychu, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil;
(i) mynd i angladd —
(i) fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,
(ii) os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu
(iii) fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;
(j) cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(k) cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus neu gael y gwasanaethau hynny;
(l) cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;
(m) cael gafael ar wasanaethau addysgol;
(n) mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
(o) symud cartref;
(p) ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;
(q) osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed;
(r) teithio i gyrraedd man y tu allan i’r ardal.
(4) At ddibenion paragraff (1), nid yw’n esgus rhesymol i berson fynd i ran o Gymru nad yw’n ardal diogelu iechyd leol, neu aros mewn rhan o Gymru o’r fath, i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i’r ardal
(5) At ddibenion paragraff (2), nid yw’n esgus rhesymol i berson adael Cymru at ddiben mynd i ardal a restrir yn Atodlen 4B i wneud unrhyw beth os byddai’n rhesymol ymarferol i’r person wneud y peth hwnnw y tu allan i’r ardal.”
(7) Yn rheoliad 18—
(a) ar ôl paragraff (4A) mewnosoder—“
(4B) Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 14D(1) neu (2), caiff y swyddog gyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae P yn byw.”;
(b) ym mharagraff (5)(a), yn lle “neu (4A)” rhodder “, (4A) neu (4B)”;
(c) ym mharagraff (6ZA), yn lle “paragraff” rhodder “rheoliad 14D(1) neu (2) neu baragraff”.
(8) Yn rheoliad 20—
(a) ym mharagraff (1)(b), yn lle “neu 14B(1)” rhodder “, 14B(1) neu 14D(1) neu (2)”;
(b) ym mharagraff (3)(a), ar ôl “18(4A)(a),” mewnosoder “18(4B),”.
(9) Yn Atodlen 4A—
(a) ym mharagraff 1(q)(viii), ar ôl “Menai” mewnosoder “(Bangor)”;
(b) ym mharagraff 3(2)—
(i) yn is-baragraff (d), yn lle “darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol,” rhodder “darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol”;
(ii) yn is-baragraff (l), yn lle “ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny” rhodder “wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny”;
(iii) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(la) cymryd rhan mewn gwasanaethau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gwasanaethau hynny;”;
(c) ym mharagraff 4(2)—
(i) yn is-baragraff (d), yn lle “darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol,” rhodder “darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol”;
(ii) yn is-baragraff (l), yn lle “ofal plant neu wasanaethau addysg neu gael y gofal neu’r gwasanaethau hynny” rhodder “wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny”;
(iii) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(la) cymryd rhan mewn gwasanaethau wedi eu trefnu er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol), neu hwyluso’r gweithgareddau hynny;”.
(10) Ar ôl Atodlen 4A mewnosoder—“
ATODLEN 4B
Ardaloedd cyfyngiadau teithio
Rheoliad 14D
Rhan 1: Lloegr
1. 
Ardaloedd y canlynol, a ddynodir yn ardaloedd Haen 2 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Lefel Rhybudd COVID-19 Leol) (Uchel) (Lloegr) 2020 neu’n ardaloedd Haen 3 gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Lefel Rhybudd COVID-19 Leol) (Uchel Iawn) (Lloegr) 2020—
Cumbria

 Cyngor Bwrdeistref Barrow-in-Furness

De Swydd Efrog

 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Rotherham
 Cyngor Dinas Sheffield
 Cyngor Doncaster

Durham

 Cyngor Sir Durham

Essex

 Cyngor Basildon
 Cyngor Bwrdeistref Brentwood
 Cyngor Bwrdeistref Castle Point
 Cyngor Bwrdeistref Colchester
 Cyngor Dinas Chelmsford
 Cyngor Dosbarth Braintree
 Cyngor Dosbarth Epping Forest
 Cyngor Dosbarth Maldon
 Cyngor Dosbarth Rochford
 Cyngor Dosbarth Tendring
 Cyngor Dosbarth Uttlesford
 Cyngor Harlow

Glannau Mersi

 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Knowsley
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wirral
 Cyngor Bwrdeistref Halton
 Cyngor Bwrdeistref Sefton
 Cyngor Bwrdeistref St Helens
 Cyngor Dinas Lerpwl

Gogledd Swydd Efrog

 Cyngor Dinas Caerefrog

Gorllewin Canolbarth Lloegr

 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Sandwell
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Solihull
 Cyngor Dinas Birmingham
 Cyngor Dinas Wolverhampton
 Cyngor Walsall

Gorllewin Swydd Efrog

 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Calderdale
 Cyngor Dinas Leeds
 Cyngor Dosbarth Metropolitanaidd Dinas Bradford
 Cyngor Metropolitanaidd Kirklees
 Cyngor Wakefield

Llundain Fwyaf

 Cyngor Bwrdeistref Barking a Dagenham
 Cyngor Bwrdeistref Barnet
 Cyngor Bwrdeistref Bexley
 Cyngor Bwrdeistref Brent
 Cyngor Bwrdeistref Bromley
 Cyngor Bwrdeistref Camden
 Cyngor Bwrdeistref Croydon
 Cyngor Bwrdeistref Ealing
 Cyngor Bwrdeistref Enfield
 Cyngor Bwrdeistref Greenwich
 Cyngor Bwrdeistref Hackney
 Cyngor Bwrdeistref Hammersmith a Fulham
 Cyngor Bwrdeistref Haringey
 Cyngor Bwrdeistref Harrow
 Cyngor Bwrdeistref Havering
 Cyngor Bwrdeistref Hillingdon
 Cyngor Bwrdeistref Hounslow
 Cyngor Bwrdeistref Islington
 Cyngor Bwrdeistref Kensington a Chelsea
 Cyngor Bwrdeistref Kingston upon Thames
 Cyngor Bwrdeistref Lambeth
 Cyngor Bwrdeistref Lewisham
 Cyngor Bwrdeistref Merton
 Cyngor Bwrdeistref Newham
 Cyngor Bwrdeistref Redbridge
 Cyngor Bwrdeistref Richmond upon Thames
 Cyngor Bwrdeistref Southwark
 Cyngor Bwrdeistref Sutton
 Cyngor Bwrdeistref Tower Hamlets
 Cyngor Bwrdeistref Waltham Forest
 Cyngor Bwrdeistref Wandsworth
 Cyngor Cyffredin Dinas Llundain
 Cyngor Dinas Westminster

Manceinion Fwyaf

 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Bolton
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Bury
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Oldham
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Stockport
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Tameside
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Trafford
 Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Wigan
 Cyngor Bwrdeistref Rochdale
 Cyngor Dinas Manceinion
 Cyngor Dinas Salford

Northumberland

 Cyngor Sir Northumberland

Surrey

 Cyngor Bwrdeistref Elmbridge

Swydd Derby

 Cyngor Bwrdeistref Chesterfield
 Cyngor Bwrdeistref Erewash
 Cyngor Dosbarth Gogledd-ddwyrain Swydd Derby
 Yn ardal Cyngor Bwrdeistref High Peak, yr ardaloedd etholiadol (fel y diffinnir “electoral area” gan adran 203(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983) a ganlyn—
 Dinting
 Gamesley
 Hadfield North
 Hadfield South
 Howard Town
 Old Glossop
 Padfield
 Simmondley
 St John’s
 Tintwistle
 Whitfield

Swydd Gaer

 Cyngor Bwrdeistref Warrington
 Cyngor Dwyrain Swydd Gaer
 Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer

Swydd Gaerhirfryn

 Cyngor Blackpool
 Cyngor Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen
 Cyngor Bwrdeistref Burnley
 Cyngor Bwrdeistref Chorley
 Cyngor Bwrdeistref De Ribble
 Cyngor Bwrdeistref Fylde
 Cyngor Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn
 Cyngor Bwrdeistref Hyndburn
 Cyngor Bwrdeistref Pendle
 Cyngor Bwrdeistref Ribble Valley
 Cyngor Bwrdeistref Rossendale
 Cyngor Bwrdeistref Wyre
 Cyngor Dinas Caerhirfryn
 Cyngor Dinas Preston

Swydd Gaerlŷr

 Cyngor Bwrdeistref Oadby a Wigston
 Cyngor Dinas Caerlŷr

Swydd Nottingham

 Cyngor Bwrdeistref Broxtowe
 Cyngor Bwrdeistref Gedling
 Cyngor Bwrdeistref Rushcliffe
 Cyngor Dinas Nottingham
 Cyngor Dosbarth Ashfield
 Cyngor Dosbarth Bassetlaw
 Cyngor Dosbarth Mansfield
 Cyngor Dosbarth Newark a Sherwood

Tees Valley

 Cyngor Bwrdeistref Darlington
 Cyngor Bwrdeistref Hartlepool
 Cyngor Bwrdeistref Middlesbrough
 Cyngor Bwrdeistref Redcar a Cleveland
 Cyngor Bwrdeistref Stockton-on-Tees

Tyne a Wear

 Cyngor De Tyneside
 Cyngor Dinas Newcastle
 Cyngor Dinas Sunderland
 Cyngor Gateshead
 Cyngor Gogledd Tyneside

Rhan 2: Yr Alban
2. 
Yr ardal a ddynodir yn ardal wedi ei diogelu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Mesurau Ychwanegol Dros Dro) (Yr Alban) 2020, sydd wedi ei ffurfio o’r ardaloedd llywodraeth leol a ganlyn—
 De Swydd Ayr
 De Swydd Lanark
 Dinas Caeredin
 Dinas Glasgow
 Dwyrain Lothian
 Dwyrain Swydd Ayr
 Dwyrain Swydd Dunbarton
 Dwyrain Swydd Renfrew
 Falkirk
 Gogledd Swydd Ayr
 Gogledd Swydd Lanark
 Gorllewin Lothian
 Gorllewin Swydd Dunbarton
 Inverclyde
 Midlothian
 Stirling
 Swydd Clackmannan
 Swydd Renfrew
Rhan 3: Gogledd Iwerddon
3. 
Gogledd Iwerddon yn ei chyfanrwydd.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 11.40 a.m. ar 16 Hydref 2020