
2020 Rhif 113 (Cy. 20)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020
Gwnaed 3 Chwefror 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 2:00 p.m. 4 Chwefror 2020
Yn dod i rym ar 6:00 p.m. 4 Chwefror 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6:00 p.m. 4 Chwefror 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989
2 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989, yn Rhan 4 (clefydau eraill), ar ôl “Pandemic influenza (influenza caused by a new virus subtype that has an increased and sustained transmission during a global outbreak of influenza)” mewnosoder y cofnod a ganlyn—“Wuhan novel coronavirus (2019-nCoV).”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2020