
2020 Rhif 1098 (Cy. 249)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020
Gwnaed am 2.24 p.m. ar 9 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 6.00 p.m. ar 9 Hydref 2020
Yn dod i rym am 4.00 a.m. ar 10 Hydref 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi, dod i rym a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 10 Hydref 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2 Diwygiad i Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiad i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), yn y cofnod ar gyfer Gwlad Groeg, yn lle’r geiriau o “Antiparos” hyd at y diwedd rhodder “Creta a Mykonos”.
Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 2
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran tiriogaethau Antiparos, Lésvos, Páros, Santorini, Serifos, Tínos a Zákynthos yng Ngwlad Groeg.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan, yn union cyn 4.00 a.m. ar 10 Hydref 2020—
(a) oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu yn rhinwedd y ffaith iddo gyrraedd Cymru o diriogaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi, neu ar ôl bod mewn tiriogaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi, a
(b) diwrnod olaf ynysiad P yw 10 Hydref 2020 neu ddiwrnod ar ôl y diwrnod hwnnw.
(3) Nid yw hepgor y tiriogaethau o Ran 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan reoliad 2 yn effeithio ar y gofyniad i ynysu fel y mae’n gymwys i P, nac ar y modd y pennir diwrnod olaf ynysiad P o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 10 Hydref 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn tiriogaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(5) At ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae’r cwestiwn o ran a yw P wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt neu ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath i’w bennu, mewn perthynas â thiriogaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi, drwy gyfeirio at ba un a oedd y diriogaeth yn diriogaeth nad yw’n esempt pan oedd P yno ddiwethaf (ac nid drwy gyfeirio at statws y diriogaeth pan fo P yn cyrraedd Cymru).
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol; ac mae cyfeiriadau at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w dehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.24 p.m. ar 9 Hydref 2020