
2020 Rhif 1082 (Cy. 244)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 5 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru 7 Hydref 2020
Yn dod i rym 1 Tachwedd 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8) a 142(5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ac adrannau 87 a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mabwysiadu a Maethu (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2020.
Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
2 
Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3 
Yn rheoliad 27 (penderfyniad cyn asesu)—
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Os na chafwyd yr wybodaeth eto sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26 caiff yr asiantaeth fabwysiadu benderfynu bwrw ymlaen fel pe bai wedi gwneud penderfyniad o dan baragraff (1)(a).”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “rhaid i’r asiantaeth” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;
(c) ym mharagraff (4)—
(i) yn y geiriau agoriadol, ar ôl “i fabwysiadu plentyn,” mewnosoder “neu pan fo paragraff (1A) yn gymwys,”;
(ii) yn is-baragraff (b), ar ôl “rhaid iddo” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”.
4 
Yn rheoliad 28 (asesiad cam 2)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “o fewn chwe mis i’r dyddiad yr hysbysodd yr asiantaeth y darpar fabwysiadydd” rhodder “yn dilyn hysbysiad”;
(ii) ar ôl “reoliad 27(4)” mewnosoder “neu pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys”;
(b) hepgorer paragraffau (2) a (3).
5 
Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd)—
(a) ym mharagraff (2)(c), yn lle “26(d)” rhodder “26(d) neu (dd)”;
(b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “26(b) i (d)” rhodder “26(b) i (dd)”.
6 
Yn rheoliad 30B (penderfyniad a hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “asiantaeth fabwysiadu” mewnosoder “, pan fo’n rhesymol ymarferol,”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff (1) hyd nes ei bod wedi cael yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliadau 25 a 26.”;
(c) ym mharagraff (2), hepgorer is-baragraff (a) a’r “neu” sydd yn union ar ei ôl;
(d) ym mharagraff (5)(c)(ii), ar y dechrau mewnosoder “yn ddarostyngedig i baragraff (5A),”;
(e) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Pan fo rheoliad 27(1A) yn gymwys a bo’r asiantaeth fabwysiadu yn ystyried nad yw’r darpar fabwysiadydd yn addas i fabwysiadu plentyn oherwydd gwybodaeth a gafwyd o dan reoliad 25 neu reoliad 26, ni chaiff y darpar fabwysiadydd wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r dyfarniad o gymhwyster.”
Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
7 
Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.
8 
Yn rheoliad 26(1) (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag C), yn lle “16 wythnos” rhodder “24 wythnos”.
Dod i ben
9 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10, mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar 31 Mawrth 2021.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn cyn iddynt beidio â chael effaith.
Arbedion: asesiadau addasrwydd
10 
Mewn achos pan fo asiantaeth fabwysiadu, ar 31 Mawrth 2021, yn y broses o asesu addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005, rhaid i’r asesiad hwnnw barhau fel pe bai’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn parhau mewn grym.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Hydref 2020