
2020 Rhif 1079 (Cy. 242)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 1.25 p.m. ar 2 Hydref 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 3.50 p.m. ar 2 Hydref 2020
Yn dod i rym 3 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020 and a deuant i rym ar 3 Hydref 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2A, ym mharagraff (3)(a), yn lle “a rheoliad 14(1)(b)(i)” rhodder “, rheoliad 14(1)(b)(i) a pharagraff 2 o Atodlen 4A”.
(3) Yn rheoliad 12B, hepgorer paragraff (5).
(4) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraff 10.
(5) Yn Atodlen 4, ar ôl paragraff 45 mewnosoder—“
46. 
Canolfannau sglefrio.”
(6) Yn Atodlen 4A, yn lle paragraff 2 rhodder—“
Cyfyngiad ar aelwydydd estynedig
2. 

(1) Pan fo aelwyd, cyn i’r ardal y mae’r aelwyd yn byw ynddi ddod yn ardal diogelu iechyd leol, wedi cytuno i gael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig gydag aelwydydd eraill yn unol â rheoliad 2A—
(a) nid yw’r aelwyd honno i’w thrin fel pe bai yn yr aelwyd estynedig o’r adeg y daeth yr ardal yn ardal diogelu iechyd leol, a
(b) mae’r aelwydydd eraill yn parhau i gael eu trin fel aelwyd estynedig (ar yr amod nad ydynt yn byw mewn ardal diogelu iechyd leol) ac mae rheoliad 2A yn gymwys i’r aelwydydd hynny yn unol â hynny.
(2) Er gwaethaf rheoliad 2A(1), ni chaiff unrhyw aelwyd sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol gytuno i gael ei thrin fel aelwyd estynedig gydag aelwydydd eraill.
(3) Ond caiff aelwyd sy’n cynnwys dim mwy nag un oedolyn (ac unrhyw nifer o blant) sy’n byw mewn ardal diogelu iechyd leol ac aelwyd arall sydd hefyd yn byw yn yr ardal honno, gytuno i gael eu trin fel aelwyd estynedig dros dro.
(4) Mae aelwyd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig dros dro—
(a) os yw’r aelwyd yn peidio â byw yn yr ardal diogelu iechyd leol, neu
(b) os yw’r ardal yn peidio â bod yn ardal diogelu iechyd leol.
(5) Mae paragraffau (2) i (6) o reoliad 2A yn gymwys i (ddwy) aelwyd a drinnir fel aelwyd estynedig dros dro o dan is-baragraff (3) fel y maent yn gymwys i (hyd at bedair) aelwyd a drinnir fel aelwyd estynedig o dan reoliad 2A(1).
(6) Ond nid yw rheoliad 2A(4) yn atal—
(a) dwy aelwyd rhag cael eu trin fel aelwyd estynedig dros dro o dan is-baragraff (3)—
(i) pan oedd y naill aelwyd neu’r llall yn cael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig yn unol â rheoliad 2A, a
(ii) pan na fo’r naill aelwyd na’r llall yn cael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig mwyach yn rhinwedd is-baragraff (1)(a);
(b) hyd at bedair aelwyd rhag cael eu trin fel aelwyd estynedig o dan reoliad 2A(1)—
(i) pan oedd o leiaf un o’r aelwydydd yn cael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig dros dro yn unol ag is-baragraff (3), a
(ii) pan fo o leiaf un o’r aelwydydd yn peidio â chael ei thrin fel pe bai mewn aelwyd estynedig dros dro mwyach yn rhinwedd is-baragraff (4).”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.25 p.m. ar 2 Hydref 2020