
2020 Rhif 1064 (Cy. 239)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020
Gwnaed 30 Medi 2020
Yn dod i rym 1 Hydref 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 13(1)(a) a 201(1) a (3) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (“Deddf 1983”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Comisiwn Etholiadol yn unol ag adran 7(1) a (2)(e) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf 1983.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Dyddiad Cyhoeddi’r Gofrestr Etholiadol) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2020.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1983” yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
Dyddiad cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig ar gyfer 2020
2 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r gofyniad o dan adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983 i swyddogion cofrestru gyhoeddi, ar gyfer y flwyddyn 2020, fersiwn ddiwygiedig o’r gofrestr a gynhelir mewn cysylltiad ag ardaloedd llywodraeth leol sirol neu fwrdeistref sirol yng Nghymru o dan adran 9(1)(b) o Ddeddf 1983.
(2) Y dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod a ddisgrifir yn adran 13(1)(a) o Ddeddf 1983, sef y cyfnod y mae rhaid i’r gofrestr ddiwygiedig gael ei chyhoeddi ynddo, yw 1 Chwefror 2021.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Medi 2020