
2020 Rhif 1052 (Cy. 236) (C. 31)
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru
Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020
Gwnaed 28 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 42(3)(b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (Cychwyn) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Hydref 2020—
(a) adran 28;
(b) Atodlen 2.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2020