
2020 Rhif 1048 (Cy. 234) (C. 30)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 5) 2020
Gwnaed 25 Medi 2020
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 5) 2020.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 29 Medi 2020
2 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym, i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau, ar 29 Medi 2020—
(a) adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);
(b) adran 10 (tir ysgolion);
(c) adran 11 (tir ysbytai);
(d) adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);
(e) adran 18 (awdurdodau gorfodi);
(f) adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1;
(g) adran 28 (dehongli’r Bennod hon); ac
(h) Atodlen 1 (cosbau penodedig).
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 29 Medi 2020—
(a) adran 15 (cerbydau di-fwg); a
(b) adran 16 (mangreoedd di-fwg: esemptiadau).
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Medi 2020