
2020 Rhif 1040 (Cy. 230)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 1.31 p.m. ar 25 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 5.30 p.m. ar 25 Medi 2020
Yn dod i rym am 6.00 p.m. ar 26 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 26 Medi 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12(6), yn lle “rheoliad 12ZA” rhodder “rheoliadau 12ZA a 12ZB”.
(3) Ar ôl rheoliad 12ZA mewnosoder—“
Cymhwyso cyfyngiadau penodol i fangreoedd “dod â’ch diod eich hun”
12ZB. 
Mae rheoliadau 12(2B) i (2E) a 12ZA(2) i (4) yn gymwys i fangre agored nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, ond sy’n caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, fel y maent yn gymwys i fangre agored sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.”
(4) Yn Atodlen 4A, ym mharagraff 1, ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(g) yr ardal sy’n cynnwys yr adrannau etholiadol a ganlyn yn Sir Gaerfyrddin—
(i) Bigyn;
(ii) Bynea;
(iii) Dafen;
(iv) Elli;
(v) Felin-foel;
(vi) Glan-y-môr;
(vii) Yr Hendy;
(viii) Hengoed;
(ix) Llangennech;
(x) Lliedi;
(xi) Llwynhendy;
(xii) Tyisha;
(xiii) Swiss Valley.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.31 p.m. ar 25 Medi 2020