
2020 Rhif 1035 (Cy. 229)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 2.45 p.m. ar 24 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.45 p.m. ar 24 Medi 2020
Yn dod i rym am 6.00 p.m. ar 24 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 24 Medi 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 12—
(a) ar ôl paragraff (2A) mewnosoder—“
(2B) Pan fo paragraff (2) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre agored sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid gwerthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre yn unol â’r mesur rhesymol a bennir ym mharagraff (2C) (yn ddarostyngedig i baragraffau (2D) a (2E)).
(2C) Y mesur rhesymol yw bod rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—
(a) pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,
(b) pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, ac
(c) pan fyddant yn bwyta bwyd neu’n yfed diod.
(2D) Ond pan fo’r fangre yn darparu bwyd ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd ar yr amod y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau wrth y bwffe (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).
(2E) Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (2C) yn gymwys i—
(a) ffreuturau yn y gweithle, neu
(b) mangreoedd mewn sefydliad addysgol.
(2F) At ddibenion paragraff (2B)—
(a) nid yw bwyd neu ddiod a werthir gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;
(b) mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.”
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 12ZA, mae mangre agored wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.”
(3) Ar ôl rheoliad 12 mewnosoder—“
Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig
12ZA. 

(1) Ni chaiff person sy’n gyfrifol am fangre agored sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol werthu na chyflenwi alcohol rhwng 10.00 p.m. a 6.00 a.m.
(2) Pan fo’r fangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, o ran y person sy’n gyfrifol am y fangre—
(a) rhaid iddo gau’r fangre (i gwsmeriaid) am neu cyn 10.20 p.m. bob dydd, a
(b) ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(3) Er gwaethaf paragraff (2), caiff sinema gau’n hwyrach na 10.20 p.m. dim ond at ddiben gorffen dangos ffilm sy’n dechrau cyn 10.00 p.m.
(4) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fangre agored mewn—
(a) porthladd môr;
(b) maes awyr.
(5) O ran ei gymhwysiad i fangre gwesty neu lety arall, nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i’r rhannau hynny o’r fangre lle y gwerthir neu y cyflenwir alcohol i’w yfed yn y fangre.
(6) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi, yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.”
(4) Yn rheoliad 12B—
(a) hepgorer paragraff (3)(b);
(b) ar ôl paragraff (4)(g) mewnosoder—“
(h) pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.”
(5) Yn rheoliad 17(2), yn lle “neu 12(2), neu baragraff 7 o Atodlen 4A” rhodder “, 12(2) neu 12ZA(1) neu (2)”.
(6) Yn rheoliad 20(1)(a), yn lle “, neu baragraffau 5(1) neu 7(1)” rhodder “neu 12ZA(1) neu (2), neu baragraff 5(1)”.
(7) Yn Atodlen 4A, hepgorer paragraff 7.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 2.45 p.m. ar 24 Medi 2020