
2020 Rhif 1022 (Cy. 227)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 12.25 p.m. ar 22 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.00 p.m. ar 22 Medi 2020
Yn dod i rym at 6.00 p.m. ar 22 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr etc.) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 22 Medi 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 14, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Mae hefyd yn esgus rhesymol i ddim mwy na 6 o bobl ymgynnull mewn (unrhyw) fangre o dan do pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—
(a) yn byw yn yr un fangre, a
(b) yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.”
(3) Yn rheoliad 14C, yn y testun Cymraeg, yn y ddau le y mae’n digwydd (gan gynnwys yn y pennawd), yn lle “leol” rhodder “lleol”.
(4) Yn Atodlen 4A—
(a) ym mharagraff 1, ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent;
(d) Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
(e) Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful;
(f) Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd.”;
(b) yn union o flaen paragraff 7, hepgorer y pennawd (“RHAN 3”) a’r is-bennawd oddi tano (“Cyfyngiadau nad ydynt yn gymwys ond mewn cysylltiad â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf”);
(c) ym mharagraff 7—
(i) mewnosoder y canlynol fel pennawd—“
Cyfyngiadau ar fangreoedd trwyddedig”
(ii) yn is-baragraff (1), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf” rhodder “mewn ardal diogelu iechyd leol”;
(iii) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) Nid yw is-baragraff (1)—
(a) yn caniatáu i’r fangre drwyddedig fod ar agor yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre;
(b) yn atal gwerthu neu gyflenwi alcohol gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell.”;
(iv) yn lle is-baragraff (3)(a) rhodder—“
(a) ystyr “mangre drwyddedig” yw tafarn, bar (gan gynnwys bar mewn clwb aelodau, gwesty neu lety arall), caffi neu fwyty (gan gynnwys bwyty neu ystafell fwyta mewn clwb aelodau, gwesty neu lety arall) y mae awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol mewn cysylltiad ag ef neu â hi.”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 12.25 p.m. ar 22 Medi 2020