
2020 Rhif 1007 (Cy. 224)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed am 1.04 p.m. ar 17 Medi 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru am 4.45 p.m. ar 17 Medi 2020
Yn dod i rym am am 6.00 p.m. ar 17 Medi 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) (Rhondda Cynon Taf) 2020 a deuant i rym am 6.00 p.m. ar 17 Medi 2020.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 14(2)—
(a) yn is-baragraff (a), ar ôl “cael” mewnosoder “neu ddarparu”;
(b) hepgorer is-baragraff (d).
(3) Yn rheoliad 14C—
(a) yn y pennawd, yn lle “Ardal” rhodder “Ardaloedd”;
(b) yn y rheoliad—
(i) yn lle “ardal” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd rhodder “ardaloedd”;
(ii) yn lle “ardal honno” rhodder “ardaloedd hynny”.
(4) Yn rheoliad 17—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (c), yn lle “paragraffau (2) a (3)” rhodder “paragraff (2)”;
(ii) yn is-baragraff (d), yn lle “paragraffau (2) a (3)” rhodder “paragraff (2)”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “12(2)” mewnosoder “, neu baragraff 7 o Atodlen 4A,”.
(5) Yn rheoliad 18(6A), yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd.
(6) Yn rheoliad 20(1)(a), yn lle “baragraff 5(1) o Atodlen 4A” rhodder “baragraffau 5(1) neu 7(1) o Atodlen 4A”.
(7) Yn Atodlen 4A—
(a) yn lle paragraff 1 rhodder—“
RHAN 1 Ardaloedd diogelu iechyd lleol
Ardaloedd diogelu iechyd lleol
1. 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r ardaloedd a ganlyn yn ardaloedd diogelu iechyd lleol—
(a) Bwrdeistref Sirol Caerffili;
(b) Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
RHAN 2
Cyfyngiadau sy’n gymwys mewn cysylltiad â phob ardal diogelu iechyd leol”
(b) ar ddiwedd yr Atodlen mewnosoder—“
RHAN 3 Cyfyngiadau nad ydynt yn gymwys ond mewn cysylltiad â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
7. 

(1) O ran person sy’n gyfrifol am fangre drwyddedig ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd wedi ei hawdurdodi i werthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre—
(a) rhaid iddo gau’r fangre am neu cyn 11.00 p.m. bob dydd, a
(b) ni chaiff agor y fangre cyn 6.00 a.m. bob dydd.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r fangre drwyddedig fod ar agor yn groes i awdurdodiad sydd wedi ei ganiatáu neu ei roi mewn cysylltiad â’r fangre.
(3) Yn y paragraff hwn—
(a) mae “mangre drwyddedig” yn fangre y mae awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol mewn cysylltiad â hi;
(b) mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o Ddeddf Trwyddedu 2003.”
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.04 p.m. ar 17 Medi 2020