
2019 Rhif 976 (Cy. 167)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019
Gwnaed 31 Mai 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 3 Mehefin 2019
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 52(1), 186 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2019 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006, yn lle “cynllun lleoli unigolyn” rhodder “cytundeb lleoli unigolyn”.
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadauʼn Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010
3 
Yn rheoliad 4(b) o Reoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010, yn lle “9(7)(a)” rhodder “9(7)”.
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019
4 
Yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019, yn lle “rheoliad 12” rhodder “adran 52(1) o’r Ddeddf”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Mai 2019