
2019 Rhif 94 (Cy. 25)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni14 Ionawr 2019
Gwnaed 21 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ac Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
2 
Yn Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014, hepgorer rheoliad 10(6).
Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018
3 

(1) Mae Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, hepgorer paragraffau 5(2)(c) a 5(2)(d).
(3) Yn Atodlen 6—
(a) ym mharagraff 9(6), hepgorer “o drydedd wlad”;
(b) ym mharagraff 12(4), hepgorer “o drydedd wlad”;
(c) ym mharagraff 13(3), hepgorer “o drydedd wlad”;
(d) ym mharagraff 15—
(i) yn y pennawd, hepgorer “i drydydd gwledydd”;
(ii) yn is-baragraff (1), yn lle “i drydedd wlad brotein” rhodder “protein”;
(iii) yn is-baragraff (2), yn lle “i drydedd wlad gynhyrchion” rhodder “cynhyrchion”;
(iv) yn is-baragraff (3), yn lle “i drydedd wlad brotein” rhodder “protein”.
(4) Yn Atodlen 7—
(a) ym mharagraff 1, hepgorer “a osodir ar yr Aelod-wladwriaeth”;
(b) ym mharagraff 8(3)—
(i) ar ddiwedd paragraff (a), mewnosoder “neu”;
(ii) ar ddiwedd paragraff (b), yn lle “; neu” rhodder “.”;
(iii) hepgorer paragraff (c).
(c) ym mharagraff (9)(3)(b)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (i), mewnosoder “neu”;
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (ii), yn lle “; neu” rhodder “.”;
(iii) hepgorer is-baragraff (iii);
(d) ym mharagraff 15, hepgorer “At ddibenion pwynt 10.1 a phwynt 10.2 o Atodiad V,”.
(5) Yn Atodlen 8—
(a) ym mharagraff 1, yn y pennawd ac yn is-baragraff (1), hepgorer “i drydydd gwledydd”;
(b) ym mharagraff 2, yn y pennawd ac yn is-baragraff (1), hepgorer “i drydydd gwledydd”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2019