
2019 Rhif 938 (Cy. 164)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed 14 Mai 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae Gweinidogion Cymru, fel sy’n ofynnol gan adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod.

Yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, gosodwyd drafft o’r cod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru am 40 niwrnod.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer mewn perthynas â Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y cod” yw’r cod ymarfer mewn perthynas â gwasanaethau maethu awdurdodau lleol a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 17 Mai 2019.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r cod ddod i rym yw 20 Mai 2019.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2019