
2019 Rhif 932 (Cy. 163)
Aer Glân, Cymru
Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 9 Mai 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mai 2019
Yn dod i rym 5 Mehefin 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 20(6) o Ddeddf Aer Glân 1993, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mehefin 2019 .
Diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019
2 
Yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019, yn yr Atodlen, ym mharagraff 71(c), yn lle “150” rhodder “130”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Mai 2019