
2019 Rhif 92 (Cy. 24)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Anifeiliaid, CymruIechyd Anifeiliaid
Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019Gofynion sifftio wedi eu bodloni 14 Ionawr 2019
Gwnaed 21 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Da Byw (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “pasbort gwartheg” yn lle “yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000” rhodder “o dan Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn, neu’r mesur cyfatebol yn Lloegr neu’r Alban”.
(3) Yn rheoliad 10(3)(f), yn lle “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall” rhodder “ag unrhyw berson”.
(4) Yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 8.
(5) Ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn y teitl ac yn is-baragraff (1), hepgorer “arall”.
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011
3 

(1) Mae Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 8(2)(c), yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.
(3) Yn erthygl 10, yn lle “masnachu neu allforio o fewn y Gymuned” rhodder “allforio”.
Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015
4 

(1) Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2(1), yn y diffiniadau o “allforio”, “marc adnabod” a “dull adnabod”, hepgorer “arall”.
(3) Yn erthygl 32, yn y teitl ac ym mharagraffau (1) a (2), hepgorer “arall”.
(4) Yn erthygl 38(1)(g), hepgorer “â chynrychiolydd o’r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy’n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd”.
(5) Yn erthygl 41(d), hepgorer “arall”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2019