
2019 Rhif 887 (Cy. 159)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019
Gwnaed 25 Ebrill 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ebrill 2019
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 52(1) a (6) a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;
 ystyr “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yw person y mae ei gais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig wedi cael ei ganiatáu o dan adran 7(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
 ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017;
 ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli” (“the Advocacy Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;
 ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion” (“the Adult Placement Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;
 ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu” (“the Adoption Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;
 ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu” (“the Fostering Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019;
 ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.
Troseddau o dan y Ddeddf
3 
Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 47 (gwneud datganiadau anwir) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol.
4 
Mae trosedd a gyflawnir o dan adran 48 (methiant i gyflwyno datganiad blynyddol) neu 49 (methiant i ddarparu gwybodaeth) o’r Ddeddf wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf honno. Y gosb i’w thalu yw swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol.
Troseddau o dan Reoliadau 2017
5 

(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau Rheoliadau 2017 a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 1 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 1 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 1.
Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu
6 

(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 2 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 2 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 2.
Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion
7 

(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 3 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 3 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 3.
Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli
8 

(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 4 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion rheoliad 12.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 4 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 4.
Troseddau o dan y Rheoliadau Gwasanaethau Maethu
9 

(1) Mae’r troseddau o dan ddarpariaethau’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5 wedi eu rhagnodi’n droseddau at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5 yn cynnwys disgrifiad o’r drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5.
Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb
10 

(1) Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’w thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).
(2) Mae adran 184 o’r Ddeddf yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.
Talu’r gosb
11 

(1) Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i Weinidogion Cymru drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan, sy’n datgan i daliad cosb ddod i law neu na ddaeth i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
Y cyfnod pan na chaniateir i achos gael ei gychwyn
12 
Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.
Tynnu hysbysiad cosb yn ôl
13 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—
(a) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu—
(i) na ddylai fod wedi cael ei roi, neu
(ii) na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu
(b) os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.
(3) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.
(4) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).
(5) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.
Cynnwys hysbysiad cosb
14 

(1) Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—
(a) enw a chyfeiriad y derbynnydd;
(b) swm y gosb;
(c) y cyfnod talu;
(d) y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;
(e) y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(f) y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;
(g) y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;
(h) y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;
(i) ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.
Cofnodion
15 
Rhaid i Weinidogion Cymru gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—
(a) copi o bob hysbysiad cosb a roddir;
(b) cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;
(c) manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;
(d) manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.
Dirymu
16 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017 wedi eu dirymu.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Ebrill 2019
ATODLEN 1
Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau a reoleiddir o dan Reoliadau 2017
Rheoliad 5


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Rheoliad 7(3) a (5) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 11(3) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chynaliadwyedd ariannol y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 12(1) a (2) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 19(1), (2), (3) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 20(1) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 35(1) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 38(1) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 59(1), (2) a (3) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 60(1), (2) a (4) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 67(1) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 74(1) a (2) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 75(1) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 80(4) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 81(1) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 84(1) a (3) o Reoliadau 2017 Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
ATODLEN 2
Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig
Rheoliad 6


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Rheoliad 5(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 9(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 10(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 13(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 14(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 23(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 26(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 30(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1), (2), (3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 36(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 43(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 44(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 49(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 50(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau’r cymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 53(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
ATODLEN 3
Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau lleoli oedolion
Rheoliad 7


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Rheoliad 3(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 7(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 11(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu cytundeb gofalwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 16(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 28(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 40(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 41(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 46(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 53(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 54(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 59(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 60(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 63(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
ATODLEN 4
Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig
Rheoliad 8


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Rheoliad 4(3) a (5) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 15(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 24(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 27(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 31(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 32(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 37(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 44(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 45(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 50(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 51(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau eiriolaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 54(1) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i’r rheoleiddiwr gwasanaethau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
ATODLEN 5
Troseddau rhagnodedig – gwasanaethau maethu rheoleiddiedig
Rheoliad 9


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Rheoliad 4(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofyniad i roi hysbysiad o ddiwygiad i’r datganiad o ddiben, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 8(3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofyniad i ddarparu copïau o’r cyfrifon, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 9(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion i gael polisïau a gweithdrefnau penodedig yn eu lle, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 12(1), (2) a (3) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth am y gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 30(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag addasrwydd staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 33(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â darparu gwybodaeth ar gyfer staff, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 39(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â chofnodion, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 40(1), (2), (3), (4), (5) ac (8) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â hysbysiadau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 50(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i benodi rheolwr, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 57(1) a (2) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd unigolyn cyfrifol i adrodd am ddigonolrwydd yr adnoddau, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 58(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas ag unigolyn cyfrifol yn gwneud adroddiadau eraill i’r darparwr gwasanaeth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 63(4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol adroddiad mewn cysylltiad ag adolygiad o ansawdd y gofal, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 64(1) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â llunio gan unigolyn cyfrifol ddatganiad o gydymffurfedd â’r gofynion o ran safonau gofal a chymorth, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol
Rheoliad 67(1) a (4) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Mynd yn groes i’r gofynion mewn perthynas â dyletswydd yr unigolyn cyfrifol i wneud hysbysiadau i Weinidogion Cymru, neu fethiant i gydymffurfio â hwy Swm sy’n cyfateb i ddwywaith lefel 4 ar y raddfa safonol