
2019 Rhif 863 (Cy. 155)
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 10 Ebrill 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Ebrill 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y’u gosodir.
Diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013
2 
Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio rheoliad 4 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)
3 
Yn rheoliad 4—
(a) ailrifer y paragraff presennol yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;
(b) ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifwyd) mewnosoder—“
(2) Mewn perthynas â daliad newydd—
(a) nid yw rheoliadau 12 i 22, 23(3), 24, 25, 30 i 33 a 36 i 46 yn gymwys hyd ddechrau’r ail flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd;
(b) nid yw rheoliadau 23(1) a (2), 26 i 29, 34 a 35 yn gymwys hyd nes 31 Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd.”
Diwygio rheoliad 6 (dehongli)
4 
Yn rheoliad 6, yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “daliad newydd” (“new holding”) yw tir ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sy’n dod yn ddaliad o ganlyniad i Weinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau yn dilyn adolygiad o dan reoliad 11(3), neu’n ychwanegu ato, ac nad oeddent yn ddaliad yn union cyn dyddiad y diwygio neu’r ychwanegu hwnnw;”.
Diwygio rheoliad 7 (dynodi parthau perygl nitradau)
5 
Yn rheoliad 7—
(a) yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—“
(2) Mae ardal wedi ei dynodi yn barth perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn os ydyw, fel ardal o dir sy’n draenio i ddyfroedd llygredig ac yn cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny, wedi ei marcio yn barth o’r fath ar fap perthnasol.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) ar gyfer y cyfnod sy’n dechrau â 25 Hydref 2013 ac sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(3) neu’n ychwanegu ato nesaf, ystyr “map” yw’r map sydd wedi ei farcio “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013” ac a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
(b) yn dilyn unrhyw adolygiad dilynol o dan reoliad 11(3), ystyr “map” yw map a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac—
(i) sydd wedi ei farcio “Mae’r map hwn yn nodi’r ardaloedd hynny o Gymru sydd wedi eu dynodi gan Weinidogion Cymru yn Barth Perygl Nitradau at ddibenion Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013”; a
(ii) sy’n pennu’r cyfnod y mae’n ymwneud ag ef.”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “phob pedair blynedd fan hwyraf wedi hynny” rhodder “chyn 1 Ionawr bob pedwaredd flwyddyn wedi hynny”.
Diwygio rheoliad 11 (adolygu parthau perygl nitradau)
6 
Yn rheoliad 11(2), yn lle “ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny” rhodder “a chyn 1 Ionawr bob pedwaredd flwyddyn wedi hynny”.
Diwygio rheoliad 36 (cofnodi maint y daliad)
7 
Yn rheoliad 36, ar ôl paragraff (2), mewnosoder—“
(3) Rhaid i feddiannydd daliad newydd gofnodi maint cyfan y daliad wedi’i gyfrifo’n unol â rheoliad 12(3).”
Diwygio rheoliad 37 (cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio)
8 
Yn rheoliad 37, ar ôl paragraff (3), mewnosoder—“
(4) Rhaid i feddiannydd daliad newydd gyfrifo a chofnodi’r materion a restrir ym mharagraff (1)(a) i (c).”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Ebrill 2019