
2019 Rhif 856 (Cy. 154)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019
Gwnaed 11 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”).
Mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 146(1) o Ddeddf 2014, wedi ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn meddwl eu bod yn addas ynghylch drafft o’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol.

Gosododd Gweinidogion Cymru, yn unol ag adran 146(2) o Ddeddf 2014, ddrafft o’r cod ymarfer ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 20 Chwefror 2019.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer ar gyfer Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y cod ymarfer” yw’r cod ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 15 Ebrill 2019.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r cod ymarfer ddod i rym yw 29 Ebrill 2019.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Ebrill 2019