
2019 Rhif 799 (Cy. 151)
Amaethyddiaeth, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019
Gwnaed 1 Ebrill 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Ebrill 2019
Yn dod i rym 29 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972.
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
RHAN 2 Diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud ag Apelau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin nad ydynt yn rhai IACS (Apelau) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y diffiniad o “apelydd”, yn lle “restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn” rhodder “sefydlwyd o dan ddarpariaethau yn Rheoliad (EU) 1308/2013, Rheoliad (EU) 1379/2013, Rheoliad (EU) 510/2014 a Rheoliad (EU) 1144/2014”;
(b) ar ddiwedd y diffiniad o “y Cynulliad Cenedlaethol”, hepgorer “ac”;
(c) yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
(i) “ystyr “Rheoliad (EU) 1308/2013” (“Regulation (EU) 1308/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001, ac (EC) Rhif 1234/2007 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 2017/2393;”;
(ii) “ystyr “Rheoliad (EU) 1379/2013” (“Regulation (EU) 1379/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1379/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 11 Rhagfyr 2013 ar gyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion pysgodfeydd a dyframaethu, sy’n diwygio Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1184/2006 ac (EC) Rhif 1224/2009 ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 104/2000 fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/812;”;
(iii) “ystyr “Rheoliad (EU) 510/2014” (“Regulation (EU) 510/2014”) yw Rheoliad (EU) Rhif 510/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 sy’n gosod y trefniadau masnach sy’n gymwys i nwyddau penodol sy’n deillio o brosesu cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EC) Rhif 1216/2009 ac (EC) Rhif 614/2009;”;
(iv) “ystyr “Rheoliad (EU) 1144/2014” (“Regulation (EU) 1144/2014”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1144/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 22 Hydref 2014 ar fesurau darparu gwybodaeth a hybu gwybodaeth ynghylch cynhyrchion amaethyddol a weithredir yn y farchnad fewnol ac mewn trydydd gwledydd ac sy’n diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 3/2008;”
(3) Yn rheoliad 4(1), yn lle “restrir yn yr Atodlen” rhodder “sefydlwyd o dan ddarpariaethau yn Rheoliad (EU) 1308/2013, Rheoliad (EU) 1379/2013, Rheoliad (EU) 510/2014 a Rheoliad (EU) 1144/2014”.
(4) Hepgorer yr Atodlen.
Darpariaeth arbed
3 
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud neu wedi gwneud penderfyniad cychwynnol mewn perthynas â gweinyddu cynllun cymorth cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd y broses apelau a sefydlwyd o dan Reoliadau 2004 yn cael effaith fel pe na bai rheoliad 2 wedi ei wneud.
RHAN 3 Diwygio deddfwriaeth sy’n ymwneud ag anifeiliaid
Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011
4 
Yn lle rheoliad 28 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 rhodder—“
Derbyn cynhyrchion i warysau
28. 
Ni chaiff neb ddod â llwyth o gynhyrchion nad yw’n cydymffurfio â gofynion mewnforio’r Rheoliadau hyn i warws gan dorri Adran 2 (storio yn warysau’r tollau) neu Adran 3 (parthau rhydd) o Bennod 3 o Deitl 7 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
1 Ebrill 2019