
2019 Rhif 797 (Cy. 150)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) 2019
Gwnaed 3 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono, yn unol ag adran 146(2) o’r Ddeddf honno, gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 13 Chwefror 2019 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 5 Ebrill 2019.
Y diwrnod penodedig
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 8 Ebrill 2019.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
3 Ebrill 2019