
2019 Rhif 796 (Cy. 149)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019
Gwnaed 3 Ebrill 2019
Yn dod i rym 12 Ebrill 2019

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 38(3) a 55(1) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(2)(b) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymwysterau Cymru (Cosbau Ariannol) (Penderfynu ar Drosiant) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2019.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “blwyddyn fusnes” (“business year”) yw cyfnod o fwy na 6 mis y mae corff dyfarnu yn cyhoeddi cyfrifon mewn cysylltiad ag ef neu, os nad yw unrhyw gyfrifon o’r fath wedi eu cyhoeddi am y cyfnod, y mae’n llunio cyfrifon mewn cysylltiad ag ef;
 ystyr “blwyddyn fusnes flaenorol” (“preceding business year”) yw’r flwyddyn fusnes yn union cyn y dyddiad hysbysu;
 mae i “corff dyfarnu” (“awarding body”) yr ystyr a roddir gan adran 57 o Ddeddf 2015;
 ystyr “dyddiad hysbysu” (“date of notice”) yw’r dyddiad y mae Cymwysterau Cymru yn rhoi hysbysiad i gorff dyfarnu o dan adran 38(4) o’r Ddeddf o’i fwriad i osod cosb ariannol ar y corff dyfarnu;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015.
Cosb ariannol: swm
3 

(1) Ni chaniateir i swm cosb ariannol a osodir ar gorff dyfarnu o dan adran 38 o’r Ddeddf fod yn fwy na 10% o drosiant y corff dyfarnu.
(2) Mae trosiant corff dyfarnu at ddibenion paragraff (1) i’w benderfynu yn unol â rheoliadau 4 a 5.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), caniateir i’r swm fod beth bynnag y mae Cymwysterau Cymru yn penderfynu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos.
Penderfynu ar drosiant at ddibenion rheoliad 3
4 

(1) Pan fo’r flwyddyn fusnes flaenorol yn gyfnod o 12 mis, trosiant corff dyfarnu yw trosiant cymwys y corff am y flwyddyn fusnes flaenorol gyfan.
(2) Pan nad oedd y flwyddyn fusnes flaenorol yn hafal i 12 mis, y trosiant yw trosiant cymwys y corff dyfarnu am y flwyddyn fusnes honno wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y flwyddyn fusnes honno ac wedi ei luosi â 12.
(3) Pan nad oedd blwyddyn fusnes flaenorol, y trosiant yw’r trosiant cymwys am y 12 mis sy’n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis cyn y mis y mae’r dyddiad hysbysu yn dod ynddo.
(4) Pan fo gan y corff dyfarnu, wrth gymhwyso paragraff (3), drosiant am gyfnod o lai na 12 mis, y trosiant yw’r trosiant cymwys yn y cyfnod hwnnw wedi ei rannu â nifer y misoedd yn y cyfnod hwnnw ac wedi ei luosi â 12.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “trosiant cymwys” yr ystyr a roddir yn rheoliad 5.
Trosiant cymwys
5 

(1) At ddibenion rheoliad 4, trosiant cymwys corff dyfarnu yw cyfanswm—
(a) pob swm sy’n dod i’r corff am ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy’n dod o fewn gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig; a
(b) pob swm arall a geir gan y corff yng nghwrs gweithgareddau arferol y corff yn y Deyrnas Unedig ar ffurf rhodd, grant, cymhorthdal neu ffi aelodaeth,
ar ôl didynnu gostyngiadau masnach, treth ar waith a threthi eraill yn seiliedig ar y symiau sy’n dod felly neu a geir felly.
(2) Mae’r symiau i’w cyfrifo gan gydymffurfio ag egwyddorion cyfrifyddu a dderbynnir yn gyffredinol yn y Deyrnas Unedig.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
3 Ebrill 2019