
2019 Rhif 736 (Cy. 139)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019
Gwnaed 27 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 11 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a pharagraff 1(1) o Atodlen 2 iddi.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003
2 
Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, yn y diffiniad o “money market fund”, hepgorer paragraff (a).
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2019