
2019 Rhif 70 (Cy. 22)
Bwyd, CymruDiogelwch Bwyd
Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019
Gwnaed 17 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Ionawr 2019
Yn dod i rym 22 Chwefror 2019

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1)(b) ac (c) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddarpariaethau penodol Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128, y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn, gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Chwefror 2019.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000;
 ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016.
Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2000
2 
Yn lle’r diffiniad o “bwyd meddygol” yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2000 rhodder—“
 ystyr “bwyd meddygol” (“medical food”) yw bwyd sy’n dod o fewn dosbarth bwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig y gosodir gofynion cyfansoddi a labelu ar eu cyfer yn y Gyfarwyddeb ac sydd wedi eu datblygu i fodloni gofynion maethol babanod;”.
Diwygio Rheoliadau 2016
3 

(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “baban” (“infant”) yw plentyn o dan 12 mis oed;”;“
 mae i “bwyd at ddibenion meddygol arbennig” yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â “food for special medical purposes” yn Rheoliad yr UE;”;“
 ystyr “y Rheoliad Dirprwyedig” (“the Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2016/128 fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd syʼn ychwanegu at Reoliad (EU) Rhif 609/2013 Senedd Ewrop aʼr Cyngor ynghylch y gofynion penodol o ran cyfansoddiad a gwybodaeth ar gyfer bwyd at ddibenion meddygol arbennig;”; a
(ii) yn y diffiniad o “gofyniad UE penodedig”, ar ôl “Rheoliad yr UE” mewnosoder “neuʼr Rheoliad Dirprwyedig”; a
(b) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Mae unrhyw gyfeiriad at ddarpariaeth yn y Rheoliad Dirprwyedig sydd wedi ei chynnwys yn y tabl yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
(6) Nid yw unrhyw gyfeiriad at y Rheoliad Dirprwyedig yn gyfeiriad at y Rheoliad Dirprwyedig ond i’r graddau y mae’n gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod.”
(3) Ar ôl rheoliad 6 (diwygiadau i offerynnau statudol) mewnosoder—“
Trefniadau trosiannol
7. 
Caniateir i fwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac eithrio’r bwyd hwnnw a ddatblygir i fodloni gofynion maethol babanod, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau penodedig y Rheoliad Dirprwyedig, barhau i gael ei farchnata nes i’r stociau o’r bwyd hwnnw gael eu disbyddu ar yr amod—
(a) ei fod yn cydymffurfio â darpariaethau penodedig Rheoliad yr UE;
(b) iddo gael ei roi ar y farchnad neu ei labelu cyn 22 Chwefror 2019; ac
(c) bod gofynion rheoliad 3(1) a (2) o Reoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 wedi eu bodloni.”
Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2016
4 
Yn lleʼr Tabl yn Atodlen 1 i Reoliadau 2016 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2
Darpariaeth benodedig yn Rheoliad yr UE Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn Rheoliad yr UE
Erthygl 4(2) (gofyniad i fwyd perthnasol gael ei ragbecynnu) Erthyglau 1(1) a 4(1)
Erthygl 9(1) (gofyniad i gyfansoddiad bwyd fod yn briodol ac yn addas o ran maeth) Erthyglau 1(1), 4(1) a 9(3)
Erthygl 9(2) (gwahardd sylweddau mewn meintiau peryglus) Erthyglau 1(1) a 4(1)
Erthygl 9(5) (gofynion o ran labelu, cyflwyno a hysbysebu bwyd perthnasol) Erthyglau 1(1), 4(1) a 9(6)
Erthygl 10 (gofynion ychwanegol ar gyfer fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol) Erthygl 4(1)
Erthygl 15(1) (rhestr yr Undeb) Erthyglau 1(1)(c), 4(1) aʼr Atodiad iʼr graddau y maeʼn gymwys i fwyd at ddibenion meddygol arbennig
Darpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig Y darpariaethau sydd i gael eu darllen gydaʼr ddarpariaeth benodedig yn y Rheoliad Dirprwyedig
Erthygl 2(2) (gofyniad i fformiwleiddiad bwyd fod yn seiliedig ar egwyddorion meddygol a maethol cadarn) Erthygl 1
Ail is-baragraff Erthygl 2(3) (bwyd i gydymffurfio â’r gofynion o ran cyfansoddiad yn Rhan B o Atodiad 1) Erthyglau 1, 2(4) a Rhan B o Atodiad 1
Erthygl 3(2) (gofyniad syʼn ymwneud â lefelau gweddillion) iʼr graddau y maeʼn gymwys i blant ifanc yn hytrach na babanod Erthyglau 1 a 3(1), (3) a (5) ac Atodiad 2
Erthygl 3(4) (gwahardd defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion) iʼr graddau y maeʼn gymwys i blant ifanc yn hytrach na babanod Erthyglau 1 a 3(1) a (5) ac Atodiad 3
Erthygl 5(2) (gofynion penodol o ran gwybodaeth am fwyd) Erthyglau 1 a 5(1) a (3)
Erthygl 6 (gofynion penodol o ran y datganiad ynglŷn â maethiad) Erthygl 1 a Rhan B o Atodiad 1
Erthygl 7 (honiadau am faethiad ac iechyd) Erthygl 1
Erthygl 9 (gofyniad hysbysu) Erthygl 1”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Ionawr 2019