Cyhoeddwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle’r OS o’r un rhif, nad oedd yn adlewyrchu’r fersiwn a lofnodwyd gan Weinidogion Cymru oherwydd camgymeriadau wrth rifo paragraffau a fformatio yn rheoliadau 2 a 4. Caiff ei ddosbarthu’n rhad ac am ddim, felly, i bob un y mae’n hysbys iddo dderbyn yr Offeryn Statudol hwnnw.
2019 Rhif 688 (Cy. 132)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
Gwnaed 26 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006
2 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006, ac ym mhennawd yr Atodlen iddynt, yn lle “deddfwriaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “deddfwriaeth yr UE a ddargedwir”.
Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014
3 

(1) Mae Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”), ar y diwedd, mewnosoder “(gweler paragraff (3))”;
(ii) yn y diffiniad o “person awdurdodedig” (“authorised person”), hepgorer y geiriau o “, ac mae’n cynnwys” hyd at “person awdurdodedig hwnnw”;
(iii) hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);
(iv) hepgorer y diffiniad o “cymorth yr UE” (“EU assistance”);
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae “gweithrediad a gymeradwywyd” yn cynnwys gweithrediad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4 cyn y diwrnod ymadael.”
(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “yr UE” rhodder “ariannol”.
(4) Yn rheoliad 7(2)(d), yn lle “yr UE” rhodder “ariannol”.
(5) Yn rheoliad 10—
(a) hepgorer paragraff (1)(j)(i);
(b) hepgorer paragraff (3).
Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014
4 

(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2)(b), hepgorer “neu’r corff cydgysylltu”;
(b) hepgorer paragraff (3).
(3) Yn lle rheoliad 7(7) rhodder—“
(7) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1).”
(4) Yn lle rheoliad 8(3) rhodder—“
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7) pan fo’r person hwnnw’n gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.”
Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015
5 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) hepgorer “a (2)”;
(b) yn lle “Erthygl 10(1)(b)” rhodder “Erthygl 10(1)”.
(3) Yn rheoliad 11(1) a (2), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
(4) Yn rheoliad 18(1), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2019