
2019 Rhif 614 (Cy. 128)
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 19 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Mawrth 2019
Yn dod i rym 28 Mawrth 2019

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.
Diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019
2 
Yn rheoliad 8 o Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019, yn lle “person cyfrifol” rhodder “perchennog”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2019