
2019 Rhif 57 (Cy. 20)
Anifeiliaid, Cymru
Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019
Gwnaed 15 Ionawr 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Ionawr 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf 1972 a chan baragraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn hwylus i gyfeiriadau yn y rheoliadau hyn at ddarpariaethau yn offerynnau’r Undeb Ewropeaidd gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.
RHAN 1 Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 a, heblaw rheoliad 13(3)(c), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Chwefror 2019.
(2) Daw rheoliad 13(3)(c) i rym ar 12 Chwefror 2021.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ardal ddynodedig” (“designatedarea”) yw ardal a ddisgrifir felly yn rheoliad 16;
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir yn arolygydd o dan reoliad 32 neu o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
 ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcing authority”) yw awdurdod lleol sy’n syrthio o fewn rheoliad 31;
 ystyr “ceffyl” (“equine”) yw anifail carngaled, gwyllt, lled-wyllt neu ddof, o fewn y genws Equus o’r teulu Equidae, a chroesiadau rhwng anifeiliaid o’r fath;
 ystyr “ceffyl gwyllt neu led-wyllt” (“wild or semi-wild equine”) yw ceffyl sy’n syrthio o fewn rheoliad 16(1);
 mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2;
 ystyr “corff dyroddi” (“issuingbody”) yw corff dyroddi fel y cyfeirir at “issuing body” yn Erthygl 5(1);
 mae i “cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 38;
 mae i “cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 39;
 ystyr “costau gorfodi” (“enforcementcosts”) yw’r costau y mae’n ofynnol i berson eu talu o dan hysbysiad adennill costau gorfodi;
 ystyr “dogfen adnabod” (“ID”) yw’r ddogfen adnabod at adnabod ceffyl yn unol â Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau hyn;
 ystyr “Erthygl” (“Article”) yw Erthygl yn Rheoliad yr UE;
 mae i “hysbysiad adennill costau gorfodi” (“enforcement costs recoverynotice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 40;
 mae i “hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio” (“non-compliance penalty notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 38;
 mae i “hysbysiad cosb ariannol benodedig” (“fixed monetary penalty notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 39;
 mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 37;
 mae i “milfeddyg swyddogol” yr ystyr a roddir i “officialveterinarian” yn Erthygl 2;
 ystyr “o fewn 24 awr” (“within 24 hours”) yw cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â’r amser—
(a) y caiff yr wybodaeth ei chreu neu ei diwygio, at ddibenion rheoliad 15(1)(a); neu
(b) y caiff y corff dyroddi gais Gweinidogion Cymru, at ddibenion rheoliad 15(1)(b),
 ond heb gynnwys unrhyw amser nad yw’n rhan o ddiwrnod gwaith; ac at y diben hwn ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “owner” yn Erthygl 2;
 ystyr “person cyfrifol” (“responsibleperson”) yw—
(a) y perchennog; neu
(b) os nad y perchennog sy’n bennaf cyfrifol am y ceffyl o dan sylw o ddydd i ddydd, y ceidwad;
 ystyr “Rheoliad yr UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 dyddiedig 17 Chwefror 2015 yn gosod rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC a 2009/156/EC o ran dulliau adnabod equidae, fel y’u diwygir o dro i dro;
 mae i “trawsatebydd” yr ystyr a roddir i “transponder” yn Erthygl 2;
 mae i “troseddwr” (“offender”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 35(1).
RHAN 2 Darpariaethau a gofynion gweinyddol a gweithdrefnol
Awdurdod cymwys ac awdurdod sootechnegol at ddibenion Rheoliad yr UE
3 
Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys a’r awdurdod sootechnegol at ddibenion Rheoliad yr UE.
Trosglwyddo perchnogaeth ceffylau
4 

(1) Rhaid i berson sy’n trosglwyddo perchnogaeth ceffyl i berson arall (y “trosglwyddai”) ddarparu dogfen adnabod y ceffyl hwnnw i’r trosglwyddai adeg y trosglwyddo.
(2) Cyn diwedd y cyfnod o 30 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y trosglwyddiad i rym, rhaid i’r trosglwyddai—
(a) hysbysu’r awdurdod dyroddi—
(i) am drosglwyddiad y berchnogaeth; a
(ii) am enw, cyfeiriad a manylion cysylltu’r trosglwyddai; a
(b) anfon dogfen adnabod y ceffyl o dan sylw at y corff dyroddi.
Adnabod ceffylau
5 
Rhaid i berson beidio â chadw ceffyl oni bai bod y ceffyl wedi ei adnabod yn unol â Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau hyn.
Ceisiadau am ddogfennau adnabod
6 

(1) At ddibenion Erthyglau 3(3) ac 11(2), rhaid i berchennog ceffyl a aned yn yr Undeb Ewropeaidd ac a leolir ar ddaliad yng Nghymru sicrhau bod cais am ddogfen adnabod i’r ceffyl hwnnw yn dod i law corff dyroddi heb fod yn hwyrach na 30 niwrnod cyn y dyddiad olaf ar gyfer dyroddi dogfen adnabod fel y’i nodir ym mharagraff (2).
(2) Y dyddiad terfynol yw’r hwyraf o’r ddau hyn—
(a) 31 Rhagfyr ym mlwyddyn galendr genedigaeth y ceffyl; neu
(b) 6 mis ar ôl dyddiad geni’r ceffyl.
(3) Rhaid anfon gyda’r cais unrhyw ffi a bennir gan y corff dyroddi y cyflwynir y cais iddo.
Cwblhau dogfennau adnabod presennol ceffylau a fewnforiwyd i’r Undeb Ewropeaidd
7 
Rhaid i’r ceidwad ddarparu i’r corff dyroddi yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol i ganiatáu i’r corff gwblhau dogfen adnabod bresennol at ddibenion Erthygl 15(2), yn ddarostyngedig i Erthygl 15(3), fel ei bod yn cydymffurfio â gofynion Erthygl 7(2).
Addasu manylion adnabod mewn dogfennau adnabod
8 
Os yw’r person cyfrifol yn credu bod angen i unrhyw fanylion adnabod a gynhwysir yn nogfen adnabod y ceffyl gael eu haddasu neu eu diweddaru, boed yn unol ag Erthygl 27(1) neu fel arall, rhaid i’r perchennog ofyn i’r corff dyroddi addasu’r ddogfen adnabod neu ei diweddaru.
Ffurf a chynnwys dogfennau adnabod
9 

(1) Mae corff dyroddi—
(a) yn gorfod sicrhau bod unrhyw stoc o ddogfennau adnabod gwag a argraffwyd ymlaen llaw (“stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw”) y mae’n ei dal neu’n ei chadw;
(b) yn gorfod sicrhau bod unrhyw ddogfen adnabod y mae’n ei dyroddi o’r stoc wag hon a argraffwyd ymlaen llaw; ac
(c) yn cael sicrhau bod dogfen adnabod y mae’n ei dyroddi heblaw o stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw,
yn cydymffurfio â pharagraff (2).
(2) At ddibenion paragraff (1), rhaid i’r ddogfen adnabod neu’r stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw gynnwys o leiaf rif cyfresol a argraffwyd ar bob un o’r tudalennau sy’n ffurfio adrannau I i III o’r ddogfen adnabod (fel y nodir yn Atodiad I i Reoliad yr UE).
(3) Rhaid i gorff dyroddi sicrhau bod yr holl ddogfennau adnabod a’r holl stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw yn cael eu rheoli mewn modd diogel ar ei fangreoedd.
(4) Os bydd dogfen adnabod neu unrhyw stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn, rhaid i’r corff dyroddi o dan sylw—
(a) hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted â phosibl eu bod wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn; a
(b) gyda’r hysbysiad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), hysbysu Gweinidogion Cymru—
(i) am yr amgylchiadau ynglŷn â’r ffaith eu bod wedi eu colli, yn eisiau neu wedi eu dwyn; a
(ii) am rifau cyfresol y ddogfen adnabod neu’r stoc wag a argraffwyd ymlaen llaw ac sydd o dan sylw.
(5) At ddibenion Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir gydag Erthygl 10(3), ac yn ddarostyngedig i’r Erthygl honno, rhaid i’r corff dyroddi o dan sylw sicrhau bod adran IV (manylion perchnogaeth) dogfen adnabod wedi ei chwblhau cyn i’r ddogfen adnabod gael ei dyroddi o dan Erthygl 9.
(6) Caiff dogfen adnabod neu unrhyw ran ohoni fod mewn iaith ychwanegol.
Dilysu dogfennau adnabod
10 
Os ceir cais gan Weinidogion Cymru, rhaid i gorff dyroddi ddilysu a yw dogfen adnabod a ddyroddwyd ganddo, neu y mae’n ymddangos ei bod wedi ei dyroddi ganddo, yn unigryw, yn wir ac yn ddilys.
Gofyniad i ddarparu dogfen adnabod i filfeddyg sy’n trin ceffyl
11 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os bydd milfeddyg yn trin ceffyl.
(2) Os ceir cais rhesymol gan y milfeddyg, rhaid i’r person cyfrifol ddarparu dogfen adnabod y ceffyl i’r milfeddyg yn ddi-oed.
Cigydda ceffyl, marwolaeth ceffyl neu golli ceffyl
12 

(1) Pan fo’n ofynnol, yn unol ag Erthygl 34(1)(c)(ii), i filfeddyg swyddogol, neu berson sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol, ddychwelyd dogfen adnabod sydd heb ei dilysu i’r corff dyroddi, rhaid i’r milfeddyg swyddogol, neu’r person sy’n gweithredu o dan ei oruchwyliaeth, ddychwelyd y ddogfen adnabod honno i’r corff dyroddi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2) Pan fo’n ofynnol, yn unol ag Erthygl 35(1), i geidwad ddychwelyd dogfen adnabod i’r corff dyroddi, rhaid i’r ceidwad ddychwelyd y ddogfen adnabod honno i’r corff dyroddi o fewn cyfnod o 30 niwrnod ar ôl marwolaeth y ceffyl neu ar ôl colli’r ceffyl.
Trawsatebyddion
13 

(1) At ddibenion Erthygl 18(3), y cymhwyster gofynnol i’r person yr ymddiriedir ynddo i fewnblannu trawsatebydd yw aelodaeth o Goleg Brenhinol y Milfeddygon, ac yn y rheoliad hwn cyfeirir at y person hwnnw fel “milfeddyg”.
(2) Rhaid i filfeddyg sy’n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl gymryd y mesurau a nodir yn Erthyglau 16 a 17(1) ar ran corff dyroddi.
(3) At ddibenion Erthygl 18(5), rhaid i’r person cyfrifol drefnu bod milfeddyg yn mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl y bernir ei fod wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2) neu 43(1)—
(a) os bydd trawsatebydd a fewnblannwyd ac a gofnodwyd o’r blaen yn peidio â gweithredu;
(b) os bydd y ceffyl yn cyrraedd Cymru ar ôl mynd drwy ddull arall o ddilysu ei fanylion adnabod a awdurdodwyd gan Aelod-wladwriaeth arall o dan Erthygl 21; neu
(c) os yw’r ceffyl—
(i) heb fod yn syrthio o fewn is-baragraffau (a) neu (b);
(ii) heb gael trawsatebydd wedi ei fewnblannu eisoes i gydymffurfio â’r gofynion neu’r manylion ynglŷn â thrawsatebyddion a nodir yn Rheoliad yr UE neu Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 504/2008 dyddiedig 6 Mehefin 2008 yn gweithredu Cyfarwyddebau’r Cyngor 90/426/EEC a 90/427/EEC o ran dulliau adnabod equidae; a
(iii) wedi ei eni ar neu cyn 30 Mehefin 2009.
(4) Rhaid i filfeddyg sy’n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl sicrhau bod y trawsatebydd yn dangos cod sy’n unigryw i’r trawsatebydd.
Cardiau clyfar
14 

(1) Caniateir i geffyl y mae dogfen adnabod wedi ei dyroddi ar ei gyfer gael ei symud neu ei gludo yng Nghymru, neu i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, heb fod ei ddogfen adnabod gydag ef, os ceir cerdyn clyfar gydag ef sydd wedi ei ddyroddi yn unol ag Erthygl 25.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch ffurf cardiau clyfar.
(3) Yn y rheoliad hwn, mae i “cerdyn clyfar” yr ystyr a roddir i “smartcard” yn Erthygl 2.
Cronfeydd data
15 

(1) Rhaid i gorff dyroddi ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i’r gronfa ddata ganolog—
(a) o fewn 24 awr ar ôl i’r wybodaeth gael ei chreu neu ei diwygio gan y corff—
(i) y manylion adnabod a ddisgrifir yn Erthygl 27(1);
(ii) yr wybodaeth a gofnodwyd yng nghronfa ddata’r corff dyroddi o dan Erthygl 38(1);
(b) o fewn 24 awr ar ôl cael cais gan Weinidogion Cymru, unrhyw wybodaeth arall (nad yw’n syrthio o fewn is-baragraff (a)) y mae’n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdani mewn perthynas â dyroddi unrhyw ddogfen adnabod gan y corff dyroddi neu mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r corff dyroddi o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE.
(2) Yn dilyn cais mewn ysgrifen gan gorff dyroddi, caiff Gweinidogion Cymru ymestyn yr amser pryd y mae’r corff dyroddi i ddarparu’r wybodaeth o dan baragraff (1) i’r gronfa ddata ganolog.
(3) Rhaid i unrhyw estyniad amser o dan baragraff (2) gael ei hysbysu i’r corff dyroddi mewn ysgrifen.
(4) At ddibenion Erthygl 40(1), rhaid i gorff dyroddi ymgorffori’r wybodaeth sy’n syrthio o fewn Erthyglau 28(e) a 38(1) yn y gronfa ddata ganolog.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i gyrff dyroddi ynghylch y gronfa ddata ganolog a sut i gofnodi gwybodaeth ynddi.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru rannu unrhyw ddata neu wybodaeth sy’n cael eu dal neu eu storio yn y gronfa ddata ganolog, neu sydd i’w dal neu i’w storio ynddi, gyda’r Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban ac, yng Ngogledd Iwerddon, yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cronfa ddata ganolog” yw’r gronfa ddata a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag Erthygl 39.
RHAN 3 Ceffylau sy’n byw o dan amodau gwyllt neu led-wyllt
Eithriadau mewn cysylltiad â cheffylau gwyllt neu led-wyllt penodol
16 

(1) Mae’r rhanddirymiad yn Erthygl 13 yn gymwys mewn perthynas â cheffylau—
(a) a nodir yn y rhestrau a gedwir gan Gymdeithasau Gwella Merlod Mynydd Cymru; neu
(b) a nodir yn y rhestrau a gedwir gan Gymdeithas Merlod y Carneddau.
(2) At ddibenion Erthygl 13, fel y’i darllenir gydag Erthygl 43(3), yr ardaloedd (“ardaloedd dynodedig”) a ddiffinnir gan Weinidogion Cymru ac sy’n cynnwys ceffylau gwyllt neu led-wyllt nad oes angen eu hadnabod â dogfennau adnabod tra byddant yn aros o fewn yr ardaloedd dynodedig yw’r ardaloedd hynny a hysbyswyd gan Weinidogion Cymru i’r Comisiwn ar 17 Medi 2009.
(3) At ddibenion Erthygl 13(1), nid oes angen i geffylau gwyllt neu led-wyllt a drosglwyddir o dan oruchwyliaeth swyddogol o un o’r rhestrau a ddisgrifir ym mharagraff (1) i’r rhestr arall a ddisgrifir ym mharagraff (1) gael eu hadnabod â dogfennau adnabod.
(4) Rhaid i geffylau gwyllt neu led-wyllt sy’n byw mewn ardal ddynodedig gael eu hadnabod â dogfen adnabod pan ddechreuir eu defnyddio at ddibenion domestig.
Gofyniad ynghylch dogfen adnabod a thrawsatebydd i geffylau gwyllt neu led-wyllt a drinnir â chynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol
17 
Os trinnir ceffyl gwyllt neu led-wyllt sydd heb ddogfen adnabod mewn ardal ddynodedig ag unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gan y ceffyl ddogfen adnabod a’i fod yn cael ei fewnblannu â thrawsatebydd—
(a) yn unol â Rheoliad yr UE; a
(b) o fewn 30 niwrnod ar ôl y driniaeth.
Ceffylau gwyllt a lled-wyllt: gofyniad ynghylch dogfen adnabod i symud o ardal ddynodedig
18 
Yn ddarostyngedig i reoliad 19, ni chaiff y person cyfrifol symud ceffyl gwyllt neu led-wyllt sydd heb ddogfen adnabod allan o ardal ddynodedig.
Eithriad i’r gofyniad ynghylch dogfen adnabod: ceffylau gwyllt neu led-wyllt a symudir am resymau lles neu i’w cigydda
19 

(1) Caiff y person cyfrifol symud ceffyl gwyllt neu led-wyllt allan o ardal ddynodedig heb ddogfen adnabod—
(a) os yw’r ceffyl yn cael ei symud allan o’r ardal ddynodedig dros dro ac am resymau lles; neu
(b) os yw’r ceffyl—
(i) yn llai na 12 mis oed a chanddo sêr deintyddol gweledol ar y blaenddannedd ochrol dros dro;
(ii) yn cael ei symud yn uniongyrchol o’r ardal ddynodedig y’i ganed ynddi i le i gael ei gigydda (boed ar gyfer ei fwyta gan bobl ai peidio);
(iii) heb gael ei drin o’r blaen ag unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol; a
(iv) â sticer a ddyroddwyd gan gorff dyroddi wedi ei osod arno cyn iddo ymadael â’r ardal ddynodedig, ac mae’n rhaid bod y sticer wedi ei farcio â rhif adnabod unigryw a’r dyddiad y cafodd ei osod ar y ceffyl.
(2) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod ceffyl sy’n syrthio o fewn paragraff (1)(b) yn cael ei gigydda o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a welir ar y sticer.
Gofynion ynglŷn â cheffylau gwyllt neu led-wyllt 12 mis oed neu drosodd a symudir i’w cigydda
20 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geffyl gwyllt neu led-wyllt—
(a) sy’n 12 mis neu drosodd; a
(b) sy’n cael ei symud o ardal ddynodedig i le i gael ei gigydda (boed ar gyfer ei fwyta gan bobl ai peidio).
(2) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gan y ceffyl (yn ychwanegol at ddogfen adnabod) sticer a ddyroddwyd gan gorff dyroddi wedi ei osod arno cyn iddo ymadael â’r ardal ddynodedig, ac mae’n rhaid bod y sticer wedi ei farcio â rhif adnabod unigryw a’r dyddiad y cafodd ei osod ar y ceffyl.
(3) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod ceffyl sy’n syrthio o fewn paragraff (1) yn cael ei gigydda o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a welir ar y sticer.
Gofynion ynglŷn â cheffylau gwyllt neu led-wyllt a symudir heblaw i’w cigydda
21 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i geffyl gwyllt neu led-wyllt sydd—
(a) o unrhyw oedran; a
(b) yn cael ei symud o ardal ddynodedig i le arall (y “cyrchnod crynhoi”) at ddiben heblaw cigydda.
(2) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod gan y ceffyl (yn ychwanegol at ddogfen adnabod) sticer a ddyroddwyd gan gorff dyroddi wedi ei osod arno cyn iddo ymadael â’r ardal ddynodedig, ac mae’n rhaid bod y sticer wedi ei farcio â rhif adnabod unigryw a’r dyddiad y cafodd ei osod ar y ceffyl.
(3) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod ceffyl sy’n syrthio o fewn paragraff (1) yn cyrraedd ei gyrchnod crynhoi o fewn 7 niwrnod ar ôl y dyddiad a welir ar y sticer.
(4) Rhaid i’r person cyfrifol sicrhau bod trawsatebydd yn cael ei fewnblannu yn y ceffyl cyn diwedd y cyfnod o 30 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r ceffyl yn cyrraedd y cyrchnod crynhoi.
(5) Heblaw dros dro neu am resymau lles, rhaid i’r person cyfrifol sicrhau nad yw’r ceffyl yn cael ei symud allan o’r cyrchnod crynhoi nes bod y trawsatebydd wedi ei fewnblannu.
RHAN 4 Troseddau
Cyffredinol
22 

(1) Mae perchennog yn euog o drosedd os yw’n torri gwaharddiad, neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad, sy’n gymwys i berchennog (gan gynnwys perchennog yn rhinwedd ei swydd fel person cyfrifol) yn Rhannau 2 a 3 neu yn Rheoliad yr UE.
(2) Mae ceidwad yn euog o drosedd os yw’n torri gwaharddiad, neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad, sy’n gymwys i geidwad (gan gynnwys ceidwad yn rhinwedd ei swydd fel person cyfrifol) yn Rhannau 2 a 3 neu yn Rheoliad yr UE.
(3) Mae corff dyroddi’n euog o drosedd os yw’n torri gwaharddiad, neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad, sy’n gymwys i gorff dyroddi yn Rhannau 2 a 3 neu yn Rheoliad yr UE.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae milfeddyg yn euog o drosedd os yw’n torri gwaharddiad, neu’n methu â chydymffurfio â gofyniad, sy’n gymwys i filfeddyg yn Rhannau 2 a 3 neu yn Rheoliad yr UE.
(5) Nid yw milfeddyg yn euog o unrhyw drosedd o fethu â chofnodi gwybodaeth mewn dogfen adnabod, neu fethu â diweddaru dogfen adnabod, os yw wedi gofyn i’r person cyfrifol am y ddogfen adnabod at y diben hwnnw ac nad yw’r person cyfrifol yn darparu, neu nad yw wedi darparu, y ddogfen adnabod i’r milfeddyg.
Cadw dogfen adnabod yn ôl oddi wrth y person cyfrifol
23 
Mae person yn euog o drosedd os yw, heb esgus rhesymol, yn cadw dogfen adnabod ceffyl yn ôl oddi wrth y person cyfrifol.
Darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol
24 
Mae person yn euog o drosedd os yw’n gwneud datganiad neu’n darparu gwybodaeth sy’n ffug neu’n gamarweiniol—
(a) wrth wneud cais am ddyroddi neu amrywio dogfen adnabod;
(b) mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth mewn dogfen adnabod neu â chofrestru dogfen adnabod; neu
(c) i unrhyw berson sy’n gweithredu mewn perthynas â gorfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE.
Meddu ar ddogfen adnabod a ffugiwyd
25 

(1) Mae person yn euog o drosedd os yw’n meddu ar ddogfen adnabod gan wybod ei bod wedi ei ffugio.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os oes gan y person, ar yr adeg o dan sylw, ddogfen adnabod a ffugiwyd dim ond er mwyn ei dinistrio neu i’w rhoi i awdurdod gorfodi, yr heddlu neu Weinidogion Cymru.
Dinistrio, difwyno neu newid etc yn amhriodol
26 
Mae person yn euog o drosedd os yw, heblaw yn unol ag unrhyw hawlogaeth, rhwymedigaeth neu ofyniad i wneud hynny yn y Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE—
(a) yn dinistrio neu’n difwyno dogfen adnabod;
(b) yn newid unrhyw gofnod mewn dogfen adnabod; neu
(c) yn difwyno, yn difodi neu’n dileu unrhyw farc a osodwyd o dan reoliad 33, ac eithrio o dan awdurdod ysgrifenedig arolygydd.
Troseddau ynghylch mewnblannu trawsatebydd
27 
Mae person yn euog o drosedd os yw yn fwriadol—
(a) yn mewnblannu, neu’n ceisio mewnblannu, mewn ceffyl, ddyfais—
(i) nad yw’n drawsatebydd dilys; neu
(ii) sydd wedi ei fewnblannu o’r blaen mewn anifail arall, neu wedi ei defnyddio ar gyfer anifail arall; neu
(b) yn ymyrryd â thrawsatebydd, neu’n ei newid fel arall, gan fwriadu twyllo.
Rhwystro
28 
Mae person yn euog o drosedd os yw—
(a) yn fwriadol yn rhwystro arolygydd sy’n gweithredu wrth orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE;
(b) heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd sy’n gweithredu wrth orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd ofyn amdanynt at y diben hwnnw; neu
(c) yn methu â dangos dogfen, cofnod neu ddogfen adnabod pan ofynnir iddo wneud hynny i unrhyw berson sy’n gweithredu wrth orfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE.
Troseddau gan gyrff corfforaethol
29 

(1) Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson tebyg arall i’r corff corfforaethol; neu
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,
mae’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) hefyd yn euog o’r drosedd.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig
30 

(1) Caniateir i achos ynglŷn â throsedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(2) At ddibenion achos o’r fath—
(a) bydd rheolau llys mewn perthynas â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas yn gorff corfforaethol;
(b) bydd adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys mewn perthynas â’r bartneriaeth neu’r gymdeithas fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.
(3) Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas yn dilyn euogfarn am drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.
(4) Pan fo partneriaeth yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) hefyd yn euog o’r drosedd.
(5) At y dibenion hyn, mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.
(6) Pan fo cymdeithas anghorfforedig yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac y profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r gymdeithas, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog i’r gymdeithas, mae’r swyddog hwnnw (yn ogystal â’r gymdeithas) hefyd yn euog o’r drosedd.
(7) At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” yw swyddog i’r gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o’r fath.
RHAN 5 Gorfodi a chosbi
Awdurdodau gorfodi
31 

(1) Yr awdurdod lleol sy’n gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliad yr UE.
(2) Mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn unrhyw achos penodol, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodir ar yr awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru, ac nid gan yr awdurdod lleol ac mewn achosion o’r fath, Gweinidogion Cymru fydd yr awdurdod gorfodi at ddibenion y Rheoliadau hyn.
Penodi arolygwyr
32 
Caiff Gweinidogion Cymru neu awdurdod gorfodi benodi person (“arolygydd”) er mwyn gorfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE.
Arolygwyr: pwerau i fynd i mewn a phwerau cyffredinol
33 

(1) Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i unrhyw dir, mangre (ac eithrio unrhyw fangre nad oes ceffyl ynddi ac a ddefnyddir fel annedd yn unig) neu eiddo er mwyn gweinyddu a gorfodi’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE, ac at ddibenion y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.
(2) Caiff arolygydd—
(a) ei gwneud yn ofynnol i ddogfen adnabod gael ei dangos, a marcio’r ddogfen adnabod honno yn ôl yr angen;
(b) cynnal unrhyw ymholiadau;
(c) cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ym mha ffurf bynnag y’u cedwir) sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE, eu harchwilio a’u copïo, a’u cludo ymaith i’w copïo;
(d) archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â dogfennau neu gofnodion; ac
(e) marcio unrhyw geffyl at ddibenion adnabod.
(3) Pan fo arolygydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre ac nad yw’n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau yn y fangre honno yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn neu Reoliad yr UE, caiff yr arolygydd ymafael yn y dogfennau hynny er mwyn penderfynu a ydynt yn berthnasol ai peidio.
(4) Caiff yr arolygydd fynd gydag—
(a) unrhyw bersonau eraill a ystyrir gan yr arolygydd yn angenrheidiol; a
(b) unrhyw gynrychiolydd i’r Comisiwn Ewropeaidd sy’n gweithredu er mwyn gorfodi un o rwymedigaethau’r UE.
Cosbau troseddol
34 
Yn ddarostyngedig i reoliad 35, mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Dewis mynd ar ôl sancsiynau sifil yn lle cosbau troseddol
35 

(1) Caiff awdurdod gorfodi osod sancsiwn sifil, neu gyfuniad o sancsiynau sifil, o dan Ran 6 yn erbyn person (“troseddwr”) os yw’r awdurdod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y troseddwr yn euog o drosedd a ddisgrifir yn Rhan 4.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir dechrau neu barhau achos troseddol yn erbyn troseddwr os bydd awdurdod gorfodi, mewn cysylltiad â’r drosedd—
(a) yn dewis cymhwyso sancsiynau sifil o dan baragraff (1); a
(b) yn cyflwyno i’r troseddwr—
(i) hysbysiad cydymffurfio;
(ii) hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio; neu
(iii) hysbysiad cosb ariannol benodedig.
(3) Os bydd y troseddwr yn methu â chydymffurfio â’r sancsiynau sifil a gyflwynir o dan baragraff (2)(b), caiff yr awdurdod gorfodi ddwyn achos troseddol.
RHAN 6 Sancsiynau sifil
Eu cymhwyso
36 
Mae’r Rhan hon yn gymwys os bydd awdurdod gorfodi yn penderfynu, o dan reoliad 35(1), gosod sancsiwn sifil, neu gyfuniad o sancsiynau sifil, ar droseddwr.
Hysbysiad cydymffurfio
37 

(1) Caiff awdurdod gorfodi, o ran cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad cydymffurfio”) i’r troseddwr, ei gwneud yn ofynnol i’r troseddwr gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod, o fewn unrhyw gyfnodau a bennir, i sicrhau na fydd y weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y drosedd yn parhau neu’n ailddigwydd.
(2) Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad cydymffurfio os oes hysbysiad cosb ariannol benodedig wedi ei chyflwyno i’r troseddwr am yr un weithred neu anweithred.
Hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio
38 

(1) Os bydd troseddwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, caiff yr awdurdod gorfodi, o ran cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio”) i’r troseddwr, ei gwneud yn ofynnol i’r troseddwr dalu i’r awdurdod unrhyw swm (y “gosb am beidio â chydymffurfio”) a bennir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â’r methiant hwnnw i gydymffurfio.
(2) Caiff yr awdurdod gorfodi bennu—
(a) swm y gosb am beidio â chydymffurfio, ond rhaid i’r swm hwnnw beidio â bod yn fwy na’r swm sy’n cyfateb i lefel 1 ar y raddfa safonol; a
(b) a gaiff unrhyw ddisgownt ei gynnig mewn perthynas â thalu’n gynnar ac, os felly, swm unrhyw ddisgownt o’r fath (ond gweler rheoliad 41(2)).
(3) Os caiff gofynion hysbysiad cydymffurfio eu bodloni cyn i’r cyfnod talu a bennir mewn hysbysiad cosb perthnasol am beidio â thalu ddod i ben, mae’r rhwymedigaeth i dalu’r gosb am beidio â chydymffurfio wedi ei gollwng.
Hysbysiad cosb ariannol benodedig
39 

(1) Caiff awdurdod gorfodi, o ran cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad cosb ariannol benodedig”) i’r troseddwr, ei gwneud yn ofynnol i’r troseddwr dalu i’r awdurdod unrhyw swm (y “gosb ariannol benodedig”) a bennir gan yr awdurdod mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y drosedd.
(2) O ran cosb ariannol benodedig—
(a) dim ond os nad yw’n rhesymol ymarferol i’r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad cydymffurfio y caniateir ei gosod; a
(b) ni chaniateir ei gosod fwy nag unwaith am yr un weithred neu anweithred.
(3) Caiff yr awdurdod gorfodi bennu—
(a) swm y gosb am beidio â chydymffurfio, ond rhaid i’r swm hwnnw beidio â bod yn fwy na’r swm sy’n cyfateb i lefel 1 ar y raddfa safonol; a
(b) a gaiff unrhyw ddisgownt ei gynnig mewn perthynas â thalu’n gynnar ac, os felly, swm unrhyw ddisgownt o’r fath (ond gweler rheoliad 41(2)).
Hysbysiad adennill costau gorfodi
40 

(1) Caiff awdurdod gorfodi, o ran cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig (“hysbysiad adennill costau gorfodi”) i droseddwr y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo, ei gwneud yn ofynnol i’r troseddwr dalu’r costau a ysgwyddwyd gan yr awdurdod mewn perthynas â’r hysbysiad cydymffurfio hyd at yr amser y cyflwynwyd yr hysbysiad cydymffurfio i’r troseddwr.
(2) Yn is-baragraff (1), ystyr y cyfeiriad at “costau” yw’r canlynol pan fyddant wedi eu hysgwyddo’n rhesymol ac yn angenrheidiol—
(a) costau ymchwilio;
(b) costau gweinyddu; ac
(c) costau sicrhau cyngor arbenigol, gan gynnwys cyngor cyfreithiol.
(3) Raid i awdurdod gorfodi ddarparu dadansoddiad manwl o’r costau a bennir mewn hysbysiad adennill costau gorfodi os bydd y troseddwr yn gofyn iddo wneud hynny.
Gwybodaeth i’w darparu mewn hysbysiad neu gydag ef
41 

(1) Os yw’n cyflwyno hysbysiad, rhaid i’r awdurdod gorfodi sicrhau bod yr hysbysiad yn cynnwys yr wybodaeth a ganlyn, neu’n cael ei gyflwyno gyda’r wybodaeth a ganlyn—
(a) enw a chyfeiriad y troseddwr y cyflwynir yr hysbysiad iddo;
(b) y rhesymau dros gyflwyno’r hysbysiad, gan gynnwys dyddiad y weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y drosedd;
(c) gwybodaeth am y camau y mae’n rhaid i’r troseddwr eu cymryd mewn ymateb i’r hysbysiad, gan gynnwys swm unrhyw gosb y mae’n rhaid ei dalu ac o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cwblhau’r camau hynny neu dalu unrhyw daliad;
(d) gwybodaeth am y canlynol—
(i) yr hawl i apelio;
(ii) canlyniadau apêl, gan gynnwys rhoi gwybod bod yr hysbysiad yn cael ei atal nes ceir y penderfyniad terfynol neu nes tynnir unrhyw apêl yn ôl; a
(iii) canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
(2) Os bydd awdurdod gorfodi yn cynnig disgownt am dalu’n gynnar o dan reoliad 38(2)(b) neu 39(3)(b), ni chaiff yr awdurdod ofyn am dalu’r swm llawn heb ddisgownt a ddisgrifir yn yr hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad” yw—
(a) hysbysiad cydymffurfio;
(b) hysbysiad cosb am beidio â chydymffurfio;
(c) hysbysiad cosb ariannol benodedig; neu
(d) hysbysiad adennill costau gorfodi.
Tynnu hysbysiad yn ôl a’i ailddyroddi
42 

(1) Caiff awdurdod gorfodi fynd ati, unrhyw bryd, mewn ysgrifen, i dynnu hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod o dan y Rhan hon yn ôl.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i hysbysiad a gyflwynir i droseddwr o dan y Rhan hon ond sydd wedyn yn cael ei dynnu’n ôl gan yr awdurdod gorfodi cyn i’r troseddwr ffeilio apêl yn erbyn y penderfyniad a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad arall i’r troseddwr ynglŷn â’r methiant a ddisgrifir yn yr hysbysiad gwreiddiol.
(4) Caniateir i hysbysiad gael ei dynnu’n ôl gan awdurdod gorfodi, os bydd yr awdurdod gorfodi’n penderfynu na chyflawnwyd y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi neu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei ddyroddi i’r person a enwyd fel y person y cafodd ei ddyroddi iddo.
(5) Pan fo hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i swm gael ei dalu (sef swm sydd wedi ei bennu yn yr hysbysiad) wedi ei dynnu’n ôl—
(a) nid oes swm yn daladwy yn unol â’r hysbysiad hwnnw; a
(b) rhaid i unrhyw swm a dalwyd yn unol â’r hysbysiad hwnnw gael ei ad-dalu i’r person a’i talodd.
(6) Yn y rheoliad hwn mae i “hysbysiad” yr ystyr a roddir yn rheoliad 41(3).
Apelio
43 

(1) Caiff person apelio yn erbyn unrhyw un neu ragor o’r penderfyniadau a ganlyn gan awdurdod gorfodi—
(a) penderfyniad, drwy gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 37, i gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i’r person hwnnw;
(b) penderfyniad, drwy gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 38, i osod cosb am beidio â chydymffurfio ar y person hwnnw;
(c) penderfyniad, drwy gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 39, i osod cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw;
(d) penderfyniad, drwy gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 40, i’w gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu costau gorfodi.
(2) Dyma’r seiliau dros apelio—
(a) bod y penderfyniad wedi ei seilio ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith neu am unrhyw reswm arall;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm.
(3) Apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yw apêl o dan y Rhan hon.
(4) Mae apêl o dan y rheoliad hwn yn atal effaith yr hysbysiad yr apelir yn ei erbyn hyd nes i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl.
(5) Pan geir apêl caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf ganslo’r hysbysiad yr apelir yn ei erbyn, ei gadarnhau neu ei amrywio.
Y cyfnod y mae angen talu o’i fewn a’r pŵer i adennill taliadau
44 

(1) I’r graddau y bydd penderfyniad i osod cosb am beidio â chydymffurfio, cosb ariannol benodedig, neu benderfyniad i adennill costau gorfodi yn cael ei gynnal ar apêl, neu os tynnir yr apêl yn ôl, rhaid i’r gosb neu’r costau gael eu talu cyn diwedd y cyfnod o 28 niwrnod (“y cyfnod y mae angen talu o’i fewn”) gan ddechrau â’r diwrnod y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl.
(2) Yn dilyn y cyfnod y mae angen talu o’i fewn, caiff awdurdod gorfodi adennill unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio neu gosb ariannol benodedig a osodwyd o dan y Rhan hon, ac unrhyw gostau gorfodi a all gael eu hadennill gan yr awdurdod o dan y Rhan hon—
(a) fel dyled sifil; neu
(b) ar orchymyn y llys, fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn llys.
Derbyniadau
45 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), caiff awdurdod gorfodi gadw symiau (“derbyniadau”) a delir mewn cysylltiad â hysbysiadau gorfodi a gyflwynir o dan y Rhan hon.
(2) Rhaid i’r swm y caniateir i awdurdod gorfodi ei gadw o dan baragraff (1) beidio â bod yn uwch na chostau rhesymol ac angenrheidiol (“costau”) a ysgwyddir, mewn perthynas â hysbysiadau gorfodi, gan yr awdurdod wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 4 a 5 a’r Rhan hon.
(3) Os bydd y derbyniadau’n uwch na’r costau, rhaid i’r awdurdod gorfodi dalu’r gormodedd i’r Gronfa Gyfunol.
(4) At ddibenion paragraff (2), mewn perthynas â hysbysiadau gorfodi, caiff costau gynnwys—
(a) costau ymchwilio;
(b) costau gweinyddu; ac
(c) costau sicrhau cyngor arbenigol, gan gynnwys cyngor cyfreithiol.
(5) Pan wneir cais gan Weinidogion Cymru, rhaid i awdurdod gorfodi ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru am dderbyniadau a chostau.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiadau gorfodi” yw hysbysiadau cosb am beidio â chydymffurfio â hysbysiadau cosb ariannol benodedig.
RHAN 7 Amrywiol
Dirymu Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009
46 
Mae Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009 wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2019