
2019 Rhif 568 (Cy. 124)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Fynwy) 2019
Gwnaed 13 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mawrth 2019
Yn dod i rym 8 Ebrill 2019

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Fynwy) 2019 a daw i rym ar 8 Ebrill 2019.
Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcioac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2019
YR ATODLEN
Erthygl 2
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Ardal Sir Fynwy (“y Sir”) ac eithrio—
(a) y darn o Draffordd yr M4 o fewn y Sir, o’r ffin â Dinas Casnewydd hyd at y ffin wrth Bont Tywysog Cymru, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(b) y darn o Draffordd yr M48 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Thraffordd yr M4 hyd at y ffin â Phont Afon Gwy, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(c) y darn o Gefnffordd yr A40 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Chefnffordd yr A465 hyd at y ffin â Sir Powys ac o’i chyffordd â Chefnffordd yr A465 hyd at y ffin â Swydd Henffordd, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(d) y darn o Gefnffordd yr A465 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Chefnffordd yr A40 hyd at y ffin â Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac o’i chyffordd â Chefnffordd yr A40 hyd at y ffin â Swydd Henffordd, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(e) y darn o Gefnffordd yr A449 o fewn y Sir, o’r ffin â Dinas Casnewydd hyd at ei chyffordd â Chefnffordd yr A40, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno;
(f) y darn o Gefnffordd yr A4042 o fewn y Sir, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Torfaen hyd at ei chyffordd â Chefnffordd yr A465;
(g) y darn o Gefnffordd yr A466 o fewn y Sir, o’i chyffordd â thraffordd yr M48 hyd at ei chyffordd â Chefnffordd yr A48; ac
(h) y darn o Gefnffordd yr A48 o fewn y Sir, o’i chyffordd â Chefnffordd yr A466 hyd at y ffin â Swydd Gaerloyw.