
2019 Rhif 566 (Cy. 123)
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Caerffili) 2019
Gwnaed 13 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mawrth 2019
Yn dod i rym 8 Ebrill 2019

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o ardal y Cyngor hwnnw.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Gwent yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Caerffili) 2019 a daw i rym ar 8 Ebrill 2019.
Dynodi ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2019
YR ATODLEN
Erthygl 2
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio ac yn ardal gorfodi arbennig
Ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili (“y Fwrdeistref Sirol”) ac eithrio—
(a) y darn o Gefnffordd yr A465 o fewn y Fwrdeistref Sirol, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful hyd at y ffin â Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, gan gynnwys ei ffyrdd ymadael ac ymuno.