
2019 Rhif 553 (Cy. 122) (C. 13)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 9) 2019
Gwnaed 11 Mawrth 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 9) 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
Y diwrnod penodedig
2 
Daw adran 131 (diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai) o’r Ddeddf i rym ar 20 Mawrth 2019 at bob diben sy’n weddill.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mawrth 2019