
2019 Rhif 545 (Cy. 119)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019
Gwnaed 12 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Mawrth 2019
Yn dod i rym 29 Ebrill 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 87, 92, 94A a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 7(1) (gofyniad i benodi rheolwr awdurdod lleol), yn lle “un oʼi swyddogion” rhodder “swyddog”;
(b) yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(5) (gofyniad i ddarparuʼr gwasanaeth yn unol â pholisïau a gweithdrefnau), yn lle “baragraff (1)(a), (b), (g) ac (i)” rhodder “baragraff (1)(a), (b), (c) ac (h)”;
(c) yn nhestun Saesneg rheoliad 11 (dyletswydd gonestrwydd)—
(i) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) in the case of a child who is placed with an area authority, that area authority.”;
(ii) hepgorer paragraff (e);
(d) yn rheoliad 26(1) (mynediad i wasanaethau iechyd), yn lle “iechyd a datblygiad” rhodder “iechyd a datblygiad corfforol, meddyliol ac emosiynol”;
(e) yn rheoliad 29(2)(e) (addasrwydd staff), yn lle “1 Medi 2022” rhodder “1 Ebrill 2022”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2019