
2019 Rhif 507 (Cy. 117)
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Gorchymyn Trwyddedu Pysgota Môr (Cymru) 2019
Gwnaed 6 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 4(1) a (2), 4A, 15(3) ac 20(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Pysgota Môr (Cymru) 2019 a daw i rym ar y diwrnod ymadael.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru, parth Cymru a chychod pysgota Cymreig lle bynnag y bônt.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn–
 ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr a gedwir o dan adran 8 o Ddeddf Llongau Masnach 1995 ac y mae ei gofnod yn y gofrestr yn pennu porthladd yng Nghymru fel y porthladd y mae’n rhaid trin y cwch fel pe bai’n perthyn iddo;
 ystyr “y gwaelodlinau” (“the baselines”) yw’r gwaelodlinau a sefydlwyd gan Orchymyn y Môr Tiriogaethol (Gwaelodlinau) 2014;
 ystyr “hyd” (“length”) o ran cwch, yw’r hyd o’i gyfrif yn unol â’r rheolau a bennir yn Erthygl 2(1) o Reoliad (EU) 2017/1130 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn diffinio nodweddion llestri pysgota;
 ystyr “milltir” (“mile”) yw milltir forol ryngwladol o 1,852 o fetrau; ac
 mae i “parth Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “the Welsh zone” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (gweler adran 158(1) a (3) o’r Ddeddf honno).
Gwahardd cychod pysgota Cymreig rhag pysgota heb drwydded ac eithriadau
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gwaherddir cychod pysgota Cymreig (lle bynnag y bônt) rhag pysgota oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi drwy drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw’r gwaharddiad ym mharagraff (1) yn gymwys—
(a) i bysgota am eogiaid neu frithyllod mudol;
(b) i bysgota gan unrhyw gwch a ddefnyddir yn gyfan gwbl er mwyn cludo pobl sy’n dymuno pysgota er pleser yn unig;
(c) i bysgota mewn dyfroedd sy’n gorwedd o fewn 12 milltir o’r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol sy’n gyfagos i Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel yn eu trefn ohonynt, ond heb ymestyn y tu hwnt i linell y mae pob pwynt ar ei hyd yn gytbell o bwyntiau agosaf y gwaelodlinau hynny a’r gwaelodlinau cyfatebol sy’n gyfagos i’r Deyrnas Unedig a Ffrainc yn eu trefn;
(d) i bysgota am lyswennod cyffredin (Anguilla anguilla) gan unrhyw gwch nad yw’n fwy na 10 metr o hyd; neu
(e) i bysgota gan unrhyw gwch nad yw’n fwy na 10 metr o hyd ac nad oes ganddo injan i bweru’r cwch.
Gwahardd cychod pysgota o Diriogaethau Dibynnol y Goron nad ydynt mewn perchnogaeth Brydeinig rhag pysgota ym mharth Cymru
4 

(1) Gwaherddir cwch pysgota a gofrestrwyd o dan gyfraith Jersey, Guernsey neu Ynys Manaw ac nad yw mewn perchnogaeth Brydeinig rhag pysgota ym mharth Cymru oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi drwy drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i bysgota—
(a) am eogiaid neu frithyllod mudol;
(b) am lyswennod cyffredin (Anguilla anguilla) gan gwch sy’n 10 metr o hyd neu lai;
(c) gan gwch sy’n 10 metr o hyd neu lai ac nad oes ganddo injan i bweru’r cwch;
(d) gan gwch a ddefnyddir yn gyfan gwbl er mwyn cludo pobl sy’n dymuno pysgota er pleser.
Gwahardd cychod pysgota tramor rhag pysgota ym mharth Cymru
5 

(1) Gwaherddir cwch pysgota tramor rhag pysgota ym mharth Cymru oni bai bod hynny wedi ei awdurdodi drwy drwydded a roddir gan Weinidogion Cymru.
(2) Ym mharagraff(1), ystyr “cwch pysgota tramor” yw cwch pysgota—
(a) nad yw wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995,
(b) nad yw wedi gofrestru o dan gyfraith Jersey, Guernsey neu Ynys Manaw, ac
(c) nad yw mewn perchnogaeth Brydeinig.
Dirymu
6 
I’r graddau y maent yn gymwys o ran cychod pysgota Cymreig, mae’r offerynnau a bennir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn nhrydedd golofn yr Atodlen.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2019
ATODLEN
Dirymu
Erthygl 6


Enw Cyfeirnod Graddau’r dirymu
Gorchymyn Trwyddedu Pysgota Môr 1992(1) O.S. 1992/2633 I’r graddau mae’n gymwys o ran cychod pysgota Cymreig
Gorchymyn Trwyddedu Pysgota Môr (Amrywio) 1993 O.S. 1993/188 I’r graddau mae’n gymwys o ran cychod pysgota Cymreig
Gorchymyn Trwyddedu Pysgota Môr (Amrywio) (Rhif 2) 1993 O.S. 1993/2291 I’r graddau mae’n gymwys o ran cychod pysgota Cymreig
Gorchymyn Deddf yr Alban 1998 (Addasiadau Canlyniadol O.S. 1999/1820) (Rhif 2) 1999 O.S. 1999/1820 Paragraff 150 o Atodlen 2