
2019 Rhif 500 (Cy. 116)
Pysgodfeydd Môr, Cymru
Rheoliadau Pysgota Môr (Trwyddedau a Hysbysiadau) (Cymru) 2019
Gwnaed 6 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2019
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 4B o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgota Môr (Trwyddedau a Hysbysiadau) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a) trwydded o dan adran 4 (trwyddedu cychod pysgota) neu 4A (trwyddedu llestri sy’n derbyn pysgod a drawslwythwyd) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 a roddwyd:
(i) mewn perthynas â chwch pysgota Cymreig; neu
(ii) gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chwch pysgota tramor; a
(b) hysbysiad i amrywio, atal neu ddirymu trwydded a ddisgrifir yn is-baragraff (a), gan gynnwys hysbysiad i amrywio, atal neu ddirymu trwydded o’r fath a roddir cyn y diwrnod ymadael.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cwch pysgota Cymreig” (“Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
(a) sydd wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995, a
(b) y mae ei gofnod yn y gofrestr yn pennu porthladd yng Nghymru fel y porthladd y mae’n rhaid trin y cwch fel pe bai’n perthyn iddo;
 ystyr “cwch pysgota perthnasol” (“relevant fishing boat”) yw—
(a) cwch pysgota Cymreig, neu
(b) cwch pysgota nad yw wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Rhan 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995;
 mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000;
 ystyr “enwebai” (“nominee”) yw naill ai—
(a) unigolyn sy’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, neu
(b) corff a gorfforwyd ac sydd â lle busnes yn y Deyrnas Unedig,
 a benodir gan berchennog neu siartrwr cwch pysgota perthnasol i dderbyn trwyddedau a hysbysiadau ar ran y perchennog neu’r siartrwr;
 ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o fath a ddisgrifir yn rheoliad 1(2)(b);
 ystyr “papur newydd” (“newspaper”) yw papur newydd sy’n cylchredeg yn y Deyrnas Unedig, neu mewn unrhyw ran ohoni, ac mae’n cynnwys cyfnodolyn, cylchgrawn neu gyhoeddiad cyfnodol arall; ac
 ystyr “trwydded” (“licence”) (ac eithrio yn y term “trwyddedau pysgota môr” (“sea fishing licences”)) yw trwydded o fath a ddisgrifir yn rheoliad 1(2).
Cyfathrebu trwyddedau a hysbysiadau
3 

(1) Mae trwydded i gael ei rhoi, ac mae hysbysiad ynglŷn â thrwydded i gael ei roi, drwy eu cyfathrebu i dderbynnydd priodol (“P”).
(2) Rhaid i drwydded gael ei chyfathrebu—
(a) drwy ei throsglwyddo’n bersonol i P;
(b) drwy ei phostio i P yng nghyfeiriad neu le busnes P;
(c) drwy ei gadael yng nghyfeiriad neu le busnes P, neu yn nwylo person yno; neu
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (6), drwy ei thrawsyrru i P drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig i gyfeiriad y mae P wedi ei bennu yn unol ag is-baragraff (b) o’r paragraff hwnnw.
(3) Rhaid i hysbysiad gael ei weithredu drwy ei gyfathrebu i P—
(a) mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir ym mharagraff (2);
(b) drwy ei gyhoeddi ar wefan, y nodir ei chyfeiriad ar y drwydded y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi; neu
(c) pan fo’r hysbysiad yn hysbysiad cyffredinol, drwy ei gyhoeddi mewn papur newydd.
(4) Rhaid i hysbysiad cyffredinol—
(a) darparu ei fod yn gymwys i bob trwydded pysgota môr; neu
(b) pennu’r trwyddedau pysgota môr hynny y mae’n ymwneud â hwy drwy gyfeirio at rywogaeth, ardal, dull, neu fath o drwydded, neu at unrhyw gyfuniad o’r materion hyn.
(5) Rhaid i hysbysiad heblaw hysbysiad cyffredinol bennu’r trwyddedau y mae’n ymwneud â hwy drwy gyfeirio at enw, llythrennau a rhif porthladd pob llestr y rhoddwyd trwydded o’r fath iddo.
(6) Dim ond os bodlonir yr amodau a ganlyn y caniateir cyfathrebu trwydded neu hysbysiad drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig fel y’i disgrifir ym mharagraff (2)(d)—
(a) bod defnyddio cyfathrebiad electronig yn golygu bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y drwydded neu’r hysbysiad ar gael i P ym mhob agwedd berthnasol fel y byddai’n ymddangos mewn trwydded neu hysbysiad a roddid ar ffurf brintiedig; a
(b) bod P wedi pennu cyfeiriad er mwyn derbyn cyfathrebiadau o’r fath.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “derbynnydd priodol” yw—
(a) mewn perthynas â thrwydded neu hysbysiad sy’n ymwneud â chwch pysgota Cymreig—
(i) perchennog neu siartrwr y cwch pysgota, neu
(ii) enwebai i’r perchennog neu’r siartrwr hwnnw; a
(b) mewn perthynas â thrwydded neu hysbysiad sy’n ymwneud ag unrhyw gwch pysgota arall, perchennog neu siartrwr y cwch pysgota.
(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad cyffredinol” yw hysbysiad sy’n ymwneud—
(a) â phob trwydded pysgota môr; neu
(b) â phob trwydded pysgota môr sy’n awdurdodi pysgota—
(i) am un neu ragor o ddisgrifiadau penodedig o bysgod môr,
(ii) mewn un neu ragor o ardaloedd penodedig,
(iii) drwy ddull neu ddulliau penodedig,
(iv) yn ôl y math o drwydded, neu
(v) drwy gyfeirio at gyfuniad o ddau neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (i) i (iv).
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trwyddedau pysgota môr” yw trwyddedau o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967.
Yr amser y mae trwyddedau wedi eu trosglwyddo a hysbysiadau wedi eu rhoi
4 

(1) Trinnir trwydded neu hysbysiad a gyfathrebir yn bersonol fel pe bai wedi ei throsglwyddo neu wedi ei roi yn union ar ôl eu cyfathrebu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), trinnir trwydded neu hysbysiad a gyfathrebir drwy’r post fel pe bai wedi ei throsglwyddo neu wedi ei roi 48 awr ar ôl diwedd y diwrnod y cawsant eu postio.
(3) Trinnir trwydded neu hysbysiad a gyfathrebir drwy eu gadael yng nghyfeiriad neu le busnes perchennog, siartrwr neu enwebai neu yn nwylo person yno, fel pe bai wedi ei throsglwyddo neu wedi ei roi 24 awr ar ôl yr amser y cawsant eu gadael.
(4) Trinnir trwydded neu hysbysiad a gyfathrebir drwy gyfathrebiad electronig fel y’i disgrifir yn rheoliad 3(2)(d) fel pe bai wedi ei throsglwyddo neu wedi ei roi 24 awr ar ôl amser y trawsyriad hwnnw.
(5) Trinnir hysbysiad a gyfathrebir drwy ei gyhoeddi ar wefan fel pe bai wedi ei roi yn union ar ôl ei gyhoeddi.
(6) Trinnir hysbysiad a gyfathrebir drwy ei gyhoeddi mewn papur newydd fel pe bai wedi ei roi ar ddiwedd y diwrnod y’i cyhoeddir.
(7) Pan fo trwydded neu hysbysiad—
(a) yn cael eu cyfathrebu drwy’r post, a
(b) yn cael eu trin fel pe baent wedi eu trosglwyddo neu wedi eu rhoi ar ddydd Sul neu ar ŵyl banc (o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971),trinnir y drwydded fel pe bai wedi ei throsglwyddo a thrinnir yr hysbysiad fel pe bai wedi ei roi ar ddiwedd y diwrnod nesaf nad yw’n ddydd Sul neu ŵyl banc.
Yr amser y mae trwyddedau a hysbysiadau’n cael effaith
5 
Yn ddarostyngedig i reoliad 6—
(a) mae trwydded yn cael effaith ar yr amser y’i trinnir fel pe bai wedi ei throsglwyddo yn unol â rheoliad 4;
(b) mae hysbysiad a gyfathrebir yn unol â rheoliad 3(3)(a) yn cael effaith 24 awr ar ôl yr amser y’i trinnir fel pe bai wedi ei roi yn unol â rheoliad 4;
(c) mae hysbysiad a gyfathrebir yn unol â rheoliad 3(3)(b) (cyhoeddi ar wefan) yn cael effaith 24 awr ar ôl yr amser y’i trinnir fel pe bai wedi ei roi yn unol â rheoliad 4(5); a
(d) mae hysbysiad a gyfathrebir yn unol â rheoliad 3(3)(c) (cyhoeddi mewn papur newydd) yn cael effaith 48 awr ar ôl yr amser y’i trinnir fel pe bai wedi ei roi yn unol â rheoliad 4(6).
Darpariaeth arbennig ar gyfer trwyddedau a hysbysiadau penodol
6 

(1) Mae trwydded neu hysbysiad a gyfathrebir drwy fwy nag un o’r dulliau a bennir yn rheoliad 3 yn cael effaith ar y cynharaf o’r amserau sy’n cyfateb i bob dull a bennir yn rheoliad 5.
(2) Mae trwydded neu hysbysiad sy’n honni ar eu hwyneb eu bod yn cael effaith ar amser sy’n hwyrach na’r amser pryd y’u trinnir fel pe baent yn cael effaith yn unol â rheoliad 5 yn cael effaith ar yr amser a ddangosir ar eu hwyneb.
Dirymu Rheoliadau Pysgota Môr (Trwyddedau a Hysbysiadau) 1994
7 
Mae Rheoliadau Pysgota Môr (Trwyddedau a Hysbysiadau) 1994 wedi eu dirymu o ran Cymru, parth Cymru a chychod pysgota Cymreig lle bynnag y bônt.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2019