
2019 Rhif 497 (Cy. 114)
Iechyd Planhigion, Cymru
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019
Gwnaed 5 Mawrth 2019
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Mawrth 2019
Yn dod i rym 28 Mawrth 2019
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan yr adran honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdodiad pasbort planhigion” (“plant passport authority”) yw awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 28 o’r Gorchymyn;
 ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005;
 ystyr “gwaith adfer” (“remedial work”) yw unrhyw gamau a gymerir gan berson at ddibenion cydymffurfio â hysbysiad adfer, neu gan arolygydd o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn;
 mae i “gwiriad adnabod” yr ystyr a roddir i “identity check” gan Erthygl 13a(1)(b)(ii) o’r Gyfarwyddeb;
 mae i “gwiriad dogfennol” yr ystyr a roddir i “documentary check” gan Erthygl 13a(1)(b)(i) o’r Gyfarwyddeb;
 mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr ystyr a roddir i “plant health check” gan Erthygl 13a(1)(b)(iii) o’r Gyfarwyddeb;
 ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;
 ystyr “hysbysiad adfer” (“remedial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan erthygl 31(1) neu (4) neu 33(3) o’r Gorchymyn;
 ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth o fewn yr ystyr a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o’r Gyfarwyddeb, neu lwyth y mae gan arolygydd amheuaeth resymol ei fod yn lwyth o’r fath, o unrhyw un neu ragor o’r deunyddiau perthnasol a ganlyn y mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn gymwys iddynt—
(a) rhisgl wedi ei wahanu o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 3 neu Ran B, paragraff 3 i’r Gorchymyn; neu
(b) pren o fath a restrir yn Atodlen 5, Rhan A, paragraff 4 neu Ran B, paragraff 1 i’r Gorchymyn, ac eithrio deunydd pecynnu pren a ddefnyddir mewn gwirionedd wrth gludo gwrthrychau o bob math;mae i “man arolygu a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved place of inspection” yn erthygl 3 o’r Gorchymyn; ac
 ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded i gynnal unrhyw weithgaredd y mae erthygl 38 neu 39 o’r Gorchymyn yn gymwys iddo.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn y Gorchymyn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gorchymyn.
Ffioedd
3 

(1) Mae ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn daladwy i Weinidogion Cymru.
(2) Mae’r ffi sy’n daladwy am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw wedi ei phennu yn Atodlen 1.
(3) Mae’r ffi sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais am drwydded (gan gynnwys cais i estyn neu amrywio trwydded), am arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig mewn cysylltiad â chais am drwydded neu er mwyn monitro cydymffurfedd â thelerau ac amodau trwydded wedi ei phennu yn Atodlen 2.
(4) Rhaid i fewnforiwr llwyth a reolir dalu—
(a) yn achos gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir ar gyfer y math perthnasol o lwyth yn eitem 1 neu 2 o’r tabl yn Atodlen 3;
(b) yn achos gwiriad dogfennol mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 1 o’r tabl yn Atodlen 4;
(c) yn achos gwiriad adnabod mewn cysylltiad â’r llwyth, y ffi a bennir yn eitem 2 o’r tabl yn Atodlen 4.
(5) Pan fo gwiriad iechyd planhigion, ar gais mewnforiwr llwyth a reolir, yn cael ei gynnal ar y llwyth mewn man arolygu a gymeradwywyd, rhaid i’r mewnforiwr dalu’r ffi o £30 ar gyfer pob ymweliad a wneir gan arolygydd wrth gynnal y gwiriad iechyd planhigion yn y man arolygu a gymeradwywyd, yn ychwanegol at y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (4)(a).
(6) Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad adfer iddo neu y rhoddir hysbysiad iddo o dan erthygl 32(1) o’r Gorchymyn dalu’r ffi a bennir yn Atodlen 5 ar gyfer cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig gan arolygydd mewn cysylltiad â llwyth a reolir.
Dirymiadau
4 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) 2006;
(b) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 2008;
(c) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 2009;
(d) Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Diwygio) 2010.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2019
ATODLEN 1
FFIOEDD AM AROLYGIADAU MEWN CYSYLLTIAD AG AWDURDODIAD PASBORT PLANHIGION
Rheoliad 3(2)


Math o arolygiad Ffi
Arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad â rhoi, amrywio neu atal dros dro awdurdodiad pasbort planhigion neu er mwyn monitro cydymffurfedd â’r awdurdodiad hwnnw— 

(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; £37

(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw £9.25
ATODLEN 2
FFIOEDD MEWN CYSYLLTIAD Â THRWYDDEDAU
Rheoliad 3(3)


Eitem Math o gais neu arolygiad Ffi
1 Cais am drwydded £305
2 Cais i estyn neu amrywio trwydded gyda newidiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad gwyddonol neu dechnegol £100
3 Cais i estyn trwydded heb unrhyw newidiadau neu i estyn neu amrywio trwydded gyda newidiadau nad ydynt yn ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad gwyddonol neu dechnegol £12
4 Arolygiad a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) mewn cysylltiad ag eitem 1, 2 neu 3 neu er mwyn monitro cydymffurfedd â thelerau ac amodau trwydded— 

(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; £37

(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw £9.25
ATODLEN 3
FFIOEDD AM WIRIADAU IECHYD PLANHIGION
Rheoliad 3(4)(a)


Eitem Disgrifiad o’r deunydd perthnasol mewn llwyth sy’n destun gwiriad iechyd planhigion Uned Ffi
1 Rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif Am bob llwyth 
- hyd at 25000kg £31.20
- am bob 1000kg ychwanegol neu ran ohono £0.49
 Hyd at uchafswm y ffi o £98 y llwyth
2 Pren (ac eithrio pren ar ffurf rhisgl wedi ei wahanu, naddion coed, sglodion coed neu flawd llif) Am bob llwyth 
- hyd at 25000kg £31.20
- am bob 1000kg ychwanegol neu ran ohono £0.25
ATODLEN 4
FFIOEDD AM WIRIADAU DOGFENNOL A GWIRIADAU ADNABOD
Rheoliad 3(4)(b) ac (c)


Eitem Math o wiriad Uned Ffi
1 Gwiriad dogfennol Am bob llwyth £7.20
2 Gwiriad adnabod Am bob llwyth 
- am bob llwyth o hyd at 30m³ sy’n ffurfio rhan o’r llwyth a gynhwysir mewn un tryc, wagen reilffordd neu gynhwysydd cyffelyb £7.20
- am bob swmplwyth o lai na 100m³ £7.20
- am bob swmplwyth o 100m³ neu fwy £14.40
ATODLEN 5
FFIOEDD AM GYNNAL NEU AM FONITRO GWAITH ADFER
Rheoliad 3(6)


Gwaith adfer Ffi
Cynnal neu fonitro gwaith adfer a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) gan arolygydd mewn cysylltiad â llwyth a reolir— 

(a) hyd at a chan gynnwys yr awr gyntaf; £37

(b) wedi hynny, am bob 15 munud ychwanegol neu ran o’r cyfnod hwnnw £9.25